Aeth dros flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Mae Nicola Harries a’r teulu yn berchen siop flodau Cascade sydd ar Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Nicola am ateb y cwestiynau.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Ein her fwyaf dros y deuddeg mis diwethaf oedd addasu ein dulliau o archebu blodau oherwydd nad oedd cwsmeriaid yn medru galw yn y siop. Nid yw blodau yn cadw’n ffres am gyfnod hir a bu rhaid sicrhau nad oeddem yn prynu gormod i osgoi gwastraff. Nid oedd yn bosibl i ni archebu blodau o’r Iseldiroedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Bu’n her dod o hyd i gwmni oedd yn medru ein cyflenwi gyda blodau ffres bob yn eil ddydd.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
Beth sydd heb newid dros y flwyddyn ddiwethaf! Pan gawsom ddychwelyd i ail agor y siop, bu rhaid arfer gyda sgriniau a chyfyngu ar y nifer yn y siop i gadw pawb yn ddiogel. Mae hynny’n anodd pan fod teuluoedd angen bod gyda’i gilydd yn trafod blodau megis ar gyfer angladd.
Bu rhaid newid ein dulliau o dderbyn taliadau gan gwsmeriaid oedd yn archebu o gartref er mwyn eu cadw’n ddiogel. Defnyddir trefn ‘clicio a chasglu’ a darparwyd mwy o le dan do i gwsmeriaid fedru cyfarfod gan gadw’r pellter priodol. Darparwyd gwasanaeth ehangach er mwyn galluogi cwsmeriaid i ddanfon blodau at eu hanwyliaid gan na fedrent ymweld â hwy.
Bu torri nôl yn oriau agor siopau yn sgil lleihad yn nifer y cwsmeriaid yn y dref. Rydym wedi addasu i ffyrdd newydd o siopa, sydd yma i aros.
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
Gall bywyd newid dros nos! Rydym yn y busnes ers 30 mlynedd, gan ddilyn yr un patrwm o’r naill flwyddyn i’r llall. Mi wnaethom fwynhau’r cyfle i gael amser i’w dreulio gyda’n gilydd adref ac yn yr ardd. Cawsom werthfawrogi harddwch yr ardal ’rydym mor ffodus o fod yn byw ynddi.
Mae trefn ein busnes wedi newid. Mae mwy yn prynu blodau ymlaen llaw a thrwy ein gwefan gyda llai yn ymweld â’r siop. Oriau agor presennol y siop yw 10.00 – 2.00 dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir archebu ar ein gwefan unrhyw adeg o’r dydd a’r nos. Trosglwyddir galwadau ffôn i rif ffôn symudol y busnes.
Mae pobl yn bendant wedi newid eu ffyrdd o siopa ac mae Steve a mi yn mwynhau patrwm newydd ein horiau gwaith.