Oedfa Bore’r Groglith Llanbedr Pont Steffan

Yn sicr roedd yn fendith bod yn y cyfarfod ar Zoom eleni.

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan

Cynhaliwyd Oedfa Hyfryd o ddathlu gan Eglwysi a ffrindiau Llambed ar Zoom bore ‘ma gyda tua 90 yn bresennol.

Diolch i Judith Burgess ac eraill am drefnu’r Oedfa ac i aelodau amrywiol Eglwysi am gymryd rhan.

Fel arfer cawn orymdaith drwy Lambed ar fore’r Groglith gan orffen yn un o’r Eglwysi a chynnal gwasanaeth, gan ddilyn gyda phaned a ‘Hot cross buns’ ond eleni nid roedd yn bosib.

Dechreuwyd y gwasanaeth gyda gair o groeso a gweddiau gan Judith Burgess a Gareth Jones.  Canwyd sawl emyn megis ‘Dyma gariad fel y moroedd, Draw draw ymhell mae gwyrddlas fryn, When I survey the wondrous cross, The power of the cross a Crist a orchfygodd’ i orffen yn fuddugoliaethus.

Diolch i’r rhai a ddarllenodd rhannau allan o Eseia 53 a Ioan 15 ac 19 sef Llinos Jones, John Frith, Margaret Hemingway, Mel Rowlands a Margaret Hemingway.

Cafwyd gair o dystiolaeth gan Emwyr Mathias o Henllan.  Cyflwynodd Gordon Harvey Y Parch Stuart Bell a gymerodd at yr anerchiad a’r gweddiau.  Atgoffodd ni yn amserol o ddywediad a glywyd yn ddiweddar ar y cyfryngau fod ‘atgofion yn gallu amrywio!.’  Aeth â ni yn ddeheuig drwy hanes y croeshoelio gan ein hatgoffa o stori’r Iesu a’r dioddef corfforol ar y groes.

Yn ail yr atgofion gwahanol am rhai yn gwylio gan chwerthin a gofyn pam na wnaeth achub ei hun drwy alw ar y llu o angylion a’r ffaith iddo farw yn ein lle.

Dewisodd Iesu ni fel pobl ac nid Ef ei hun.  Gorffennodd gyda ‘Wounded for me.’

Gweddiwyd yn ddwys i orffen y cyfarfod a chanwyd yr Emyn ‘Crist a orchfygodd’ i orffen.

Diolch i Dan am ei waith ar y cyfrifiadur ac am osod yr emynau a’r darlleniadau  yn ddwyieithog ar y grin.  Yn sicr roedd yn fendith bod yn y cyfarfod.