Parti Pampro, Mawrth Mwdlyd, Shwmae Sumae a mwy

Newyddion am weithgareddau Menter Gorllewin Sir Gâr.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau. Mae’r Fenter yn falch iawn o allu trefnu digwyddiadau yn ddiogel dros yr haf eleni ac yn gobeithio eich bod wedi mwynhau cymaint â ni!

Taith Fygi:

Rydym yn ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Castell Newydd Emlyn ar ddydd Mawrth ar y 14eg ac 28ain o Fedi a’r 12fed o Hydref. Hendygwyn-ar-Daf ar ddydd Mercher y 15fed a’r 29ain o Fedi a’r 13eg o Hydref. Ac yng Nghaerfyrddin ar ddydd Gwener yr 17eg o Fedi a’r 1af a’r 15fed o Hydref. Mae’r teithiau yn ymgynnull am 10:15yb ac yn cychwyn am 10:30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wâc hamddenol. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

NEWYDD! Sesiynau stori:

Rydym yn cychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar yr 20fed o Fedi, 4ydd a 18fed o Hydref. Ym Mhont Tyweli ar ddydd Mawrth yn y Pwerdy ar yr 21ain o Fedi, 5ed a’r 19eg o Hydref. Ac yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar yr 22ain o Fedi, 6ed ac 20fed o Hydref. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

NEWYDD! Ffitrwydd a Siapio:

Rydym yn ail-gydio yn ein sesiynau Ffitrwydd a Siapio gyda Siân Spencer ym mis Medi, yn Neuadd yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn yn cychwyn ar nos Wener y 24ain o Fedi o 5:30-6:30yp. £20 am 4 wythnos. Oherwydd niferoedd cyfyngedig bydd angen cofrestru o flaen llaw gyda nia@mgsg.cymru.

NEWYDD! Noson Shwmae a Siopa:

I ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae ychydig yn wahanol eleni rydym yn trefnu noson Shwmae a Siopa yn Yr Atom, Caerfyrddin ar nos Wener y 15fed o Hydref o 5-7yh. Bydd cwmnïau lleol yr ardal yn bresennol gyda’u stondinau. Bydd angen dewis blwch amser sef 5-6yh neu 6-7yh a chofrestru gyda ceris@mgsg.cymru

NEWYDD! Bore Hwyl Shwmae Sumae:

Bydd y Fenter yn dathlu Diwrnod Shwmae Sumae gyda theuluoedd ym more hwyl Shwmae Sumae yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Hydref o 10-11 o’r gloch. Ymunwch â ni am gemau, canu, crefft a stori. Bydd angen i bawb gofrestru gyda gwyneth@mgsg.cymru o flaen llaw.

NEWYDD! Parti Pampro:

Edrychwn ymlaen at sesiwn rhithiol Parti Pampro ar yr 21ain o Hydref am 7:30yh. Cyfle i ddysgu sut i ymlacio ac edrych ar ôl y corff ac i ddysgu am ofal croen a hunan ofal yn eich trefn dyddiol. Bydd cyfle i holi cwestiynau hefyd. Bydd y sesiwn yma am ddim. I gofrestru cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru erbyn 13/10/21 er mwyn derbyn eich pecyn o gynnyrch o flaen llaw.

NEWYDD! Mawrth Mwdlyd:

Ar ddydd Mawrth hanner tymor y 26ain o Hydref, byddwn yn trefnu diwrnod o weithgareddau yn Aspirations Outdoor Adventures, Cynwyl Elfed i blant blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Bydd y diwrnod yn rhedeg o 10-4pm, ac yn cynnwys cwrs rhwystr fwdlyd, saethyddiaeth a mwy. Niferoedd cyfyngedig felly cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru i gofrestru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Beicio Mynydd:

Mae’r Clwb Beicio Mynydd yn ôl! Croeso i flynyddoedd 6, 7 ac 8 i ymuno â’r clwb yn Byrgwm, Brechfa pob nos Iau o 5-7yh. Niferoedd cyfyngedig felly cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042.