Penodi Hazel Thomas fel cydlynydd Prosiect Tir Glas.

Wyneb cyfarwydd yn gydlynydd Prosiect Canolfan Tir Glas newydd ar gampws y coleg yn Llanbed. 

gan Lowri Thomas

Llongyfarchiadau i Hazel Thomas o Drefach am gael ei phenodi yn gydlynydd Prosiect Tir Glas ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Llambed.

Nod Canolfan Tir Glas yw hyrwyddo’r diwydiant bwyd lleol, cynaliadwyedd, cydnerthedd a mentergarwch mewn cyd-destun gwledig. Bydd yn canolbwyntio ar gryfhau seilwaith economaidd Llambed a’i chefnwlad gan roi ffocws clir i’r dref a’r ardal gyfagos o ran hunaniaeth a brand.

Mae gwreiddiau Hazel yn ddwfn yng Ngheredigion. Cafodd ei geni a’i magu ym mhentref Drefach, ym mhlwyf Llanwenog ger Llambed. Pan oedd Hazel yn 16 oed, symudodd i Lundain i ddilyn cwrs arlwyo fel cogydd proffesiynol yng Ngholeg Westminster. Cafodd ei swydd gyntaf fel cogydd proffesiynol yng Ngwesty’r Dorchester, Llundain, yn ogystal â chael cynnig swydd fel cogydd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Symudodd i weithio wedyn ar ôl ychydig flynyddoedd i Gastell Tregenna yn St Ives, Cernyw fel cogydd proffesiynol.

Wedi profedigaeth bu’n rhaid i Hazel ddychwelyd adref, ac fe ddechreuodd ei pherthynas â’r Brifysgol bryd hynny pan fu’n cydweithio gyda myfyriwr Athroniaeth a oedd eisiau aros yn y dref i agor busnes ar ôl graddio. Fel aelod o’r Siambr Fasnach yn Llambed, fe aeth ati i ddatblygu’r digwyddiad llwyddiannus ‘Ffair Fwyd Llambed’ yn y dref yn 1998 gyda thîm o ferched. Yn sgil llwyddiant y digwyddiad, roedd Hazel yn allweddol yn 1999 i sicrhau lleoliad newydd i’r Ffair Fwyd ar gampws y Brifysgol, ac fe gododd hynny apêl a llwyddiant y digwyddiad. Ers dychwelyd i Lambed mae Hazel wedi rhedeg dau fusnes arall yn y dref cyn iddi ddatblygu i fod yn Ymgynghorydd Bwyd a Threfnydd Digwyddiadau Annibynnol.

Dros y blynyddoedd, mae Hazel wedi astudio nifer o gyrsiau gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru megis Gwyddor Gymdeithasol, Iechyd ac Afiechyd, a Phroblemau a Lles Cymdeithasol, cyn defnyddio’i chredydau i gael mynediad at astudio cwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Llambed. Yn fwy diweddar, bu Hazel yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol am 7 mlynedd ar raglen Casgliad y Werin ac wedi gadael y Llyfrgell – ar ôl cyfnod fel Pennaeth Cysylltiadau Allanol y sefydliad – ymunodd â Chwmni Hyfforddiant Cambrian fel Swyddog Hyfforddi Prentisiaethau mewn Lletygarwch.

Mae ymuno fel aelod o staff ar gwmpas Llanbed yn golygu llawer i Hazel, ac mae’n edrych ymlaen yn arw i weithio ar y prosiect: “Mae cael y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect arloesol yma yn anrhydedd mawr. Prosiect hir dymor yw Prosiect Canolfan Tir Glas ond heb os mae pob elfen o’r weledigaeth yn apelio at fy niddordebau sydd gen i tuag at fwyd a bywyd cynaliadwy. Mawr hyderaf y bydd y prosiect yn denu’r gefnogaeth haeddiannol.”

Mae gweledigaeth Prosiect Tir Glas yn cwmpasu sawl elfen sy’n bwysig i Hazel. Mae Hazel yn teimlo’n angerddol dros weld y Brifysgol a thref Llanbed yn cydweithio’n agos gyda’i gilydd er mwyn sicrhau llwyddiant hir dymor i’r prosiect mewn ffordd gynaliadwy. Fel un o’r ardal, mae’r prosiect yn gyfle gwych i adeiladu ar seilwaith economaidd y dref a’r ardal, ac mae wir yn edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin a Llanbed:  “Mae Canolfan Tir Glas yn brosiect pwysig i’r Drindod Dewi Sant yn Llambed ac mae penodi Hazel i rôl y cydlynydd yn gam mawr ymlaen i wireddu’r weledigaeth. Bydd ei chysylltiadau lleol, ei phrofiad sylweddol ynghyd â’i diddordeb ym maes cynaliadwyedd yn ei gyfanrwydd – a maes cynaliadwyedd bwyd yn benodol – yn fanteisiol iawn wrth i’r Brifysgol gydweithio â phartneriaid allweddol i ddatblygu Canolfan Tir Glas yn Llambed dros gyfnod o amser.”