Y prisau dal i fod yn wych yn Llanybydder

Adroddiad Mart Da Stôr Llanybydder ddoe.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd dros 540 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddoe a’r trêd yn dda. Mae’n deg i ddweud bod y prisiau peth yn is o gymharu â’r prisiau eithriadol o dda mis diwethaf, ond ar y cyfan roedd y prisiau yn dal i fod yn wych.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1470 o eiddo Bellamy, Hendy a’r aner orau am £1570 o eiddo Williams, Tanyresgair. Y pris gorau am fuwch oedd £1190 o eiddo Davies, Esgairliving a’r pris uchaf am fuwch a llo oedd £1200 o eiddo Bushin, Glanawmor Isaf.

Bydd y farchnad nesaf o dda stôr ar yr 12fed o Fehefin felly cofiwch gofrestru yn gynnar os oes stoc gyda chi i werthu. Yn ogystal, ar y 29ain o Fai bydd arwerthiant arbennig stoc magu, ac mae nifer wedi cofrestru yn barod felly byddai’n braf cael eich cefnogaeth unwaith eto.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad.