Her Seiclo’r 75 CFfI Sir Gaerfyrddin

Bu aelodau C.Ff.I. lleol ar eu beiciau ar gyfer achosion da. 

gan Owain Davies
Aelodau ac arweinydd CFFI Llanllwni bu ar y daith

Ddoe (Dydd Sadwrn Awst 14eg) bu aelodau Clybiau Ffermwyr Ieuanc Llanllwni a Dyffryn Cothi yn rhan o Her Seiclo’r 75 C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin. Her ydoedd hon i seiclo 75 cilometr (gydag ambell un llai profiadol ohonom yn cyflawni ond ambell gymal) a ohiriwyd ers llynedd oherwydd y pandemig i nodi tri chwarter canrif y ffederasiwn sirol.

Wedi ymgynnull yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri, anelodd tua 30 o aelodau, swyddogion a chefnogwyr y Mudiad drwy’r glaw mân tuag at Langadog dan arweiniad Iestyn Owen, Cadeirydd y Sir. Roedd Jean Lewis y Llywydd ac Elfyn Davies y Llywydd Etholedig hefyd yn bresennol ar eu beiciau.

Parhaodd y daith o Langadog lawr Dyffryn Tywi i gartref C.Ff.I. Llandeilo yn Ffairfach ac wedyn i Lanarthne. O’r fan honno anelwyd am Barc Caerfyrddin ar gyfer cinio. Drwy’r prynhawn ymlwybrodd y criw o Gaerfyrddin i Fancyfelin a San Clêr cyn diweddu’r daith yn Hendy Gwyn ar Daf gyda noson gymdeithasol.

Noddwyd yr her gan S A Evans Groundworks and Construction, Hafod Farm Supplies, Lewis Carpentry and Construction a Londis Siop Gwalia, Drefach.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth casglwyd arian ar gyfer tair elusen sef Ambiwlans Awyr Cymru, Ymatebwyr Cyntaf Caerfyrddin ac Ymchwil Liwcemia. Gellir cyfrannu drwy dudalen seiclo75 ar wefan justgiving.