Ymhlith cryfderau teulu Awelon, Heol Llanfair, mae sgiliau arbennig ganddynt yn chwarae dartiau. Yn ystod Mehefin aethant i Gibraltar lle buont yn cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Ar ôl dau ohiriad cynhaliwyd y JDC Byd Eang ‘ Virtual Finals’ ar yr 8fed a’r 9fed o Fehefin. Roedd y cystadleuwyr wedi ennill eu lle drwy ffrydio byw oedd wedi digwydd yn ystod 2020. Yn ystod y cystadlaethau hyn mi wnaeth Lyn, Alex, Brynmor a Llinos deilyngu lle a thrafaelu i Gibraltar ar y 6ed o Fehefin i gynrychioli Cymru.
Ar ddydd Mawrth yr 8fed daeth bobol ifanc o bob rhan o’r byd i gymryd rhan yn y cystadlaethau ieuengaf. Bu Llinos yn llwyddiannus i fynd trwyddo i’r 16 olaf ac ennill £75. Bu Brynmor yn llwyddiannus hefyd mewn grŵp cystadleuol iawn a chyrraedd y chwarter olaf cyn colli yn y rhan olaf mewn gêm heriol dros ben yn erbyn bachgen o Denmark ac ennill gwobr o £150.
Roedd patrwm y chwarae ‘run fath gyda’r oedolion yn cystadlu mewn grwpiau a therfynnu mewn K.O. Daeth Alex yn drydydd yn ei grŵp ond dim ond dwy oedd yn mynd ymlaen. Roedd hi’n siomedig iawn a hithau mor agos. Bu Lyn yn llwyddiannus yn ei grwpiau i gyd ond colli yn erbyn enillydd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth 32.
Roedd dydd Iau wedi ei gysegru i ddigwyddiad teuluoedd – Teulu Thomas ( Darting Dragons). Er gwaethaf gemau caled iawn yn erbyn y Danes a’r Iseldirwyr ni chawsant ddigon o bwyntiau i fynd ymlaen i’r rownd olaf a’r Iseldirwyr aeth ymlaen i ennill. Yn ystod y gemau yma mi enillodd Brynmor yn erbyn y bachgen o Denmark oedd wedi ei guro ar y dydd Mawrth.
Bu dydd Gwener a dydd Sadwrn yn ddiwrnodau rhydd i fynd allan i fwynhau Gibraltar a’r tywydd braf. Ar y dydd Sul cynhaliwyd y Gibraltar Agored oedd yn cael ei gynnal yn yr un man, y man mwyaf deheuol yn edrych mas dros Affrig. Roedd safon y gemau yn uchel iawn a methodd Lyn fynd trwyddo. Yn y grŵp ieuengaf collodd Elonwy i Gymro arall a aeth ymlaen i’r ffeinal ond aeth Llinos a Brynmor ymlaen i’r wyth diwethaf. Collodd Brynmor i’r enillydd, a Llinos i berson ifanc talentog iawn o Denmark. Yn Nhwrnament y Menywod aeth Alex trwyddo i’r rownd cyn derfynol a cholli o fewn trwch blewyn i chwarae yn erbyn Laura Turner, sylwebydd chwaraeon Sky yn y rownd derfynol.
Mae’r cyfan wedi bod yn brofiad anhygoel i’r teulu i gyd mewn lle mor brydferth a thywydd braf gyda ychydig iawn o gyfyngiadau covid a phawb wedi mwynhau mas draw. Gobeithio bydd 2021 yn gweld mwy o gystadlaethau yn lleol. Mae Llinos ac Elonwy wedi cystadlu yn barod ar daith JDC yng Nghaerloyw. Mae Brynmor yn anffodus wedi mynd yn rhy hen ar gyfer y grŵp ieuenctid, ond pawb yn gobeithio bydd cystadlaethau lleol ac Academi Llanbed yn ail ddechrau yn fuan.