Silffoedd gwag mewn archfarchnad leol

Dim llysiau na ffrwythau yn y Co-op yn Llanbed bore ‘ma.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun gan Lynda Thomas.

Y bore ‘ma tynnwyd y llun uchod o silffoedd gwag yn archfarchnad Co-op Llanbed.

Doedd dim ffrwythau na llysiau yno ond ambell gwdyn o dato. Doedd neb o’r staff yn gwybod pryd y bydd rhagor yn cyrraedd.

Credir bod heintiau coronafirws cynyddol wedi bwrw’r diwydiant bwyd ynghyd â phrinder gyrrwyr lorïau.

Mae Consortiwm Manwerthu Prydain yn annog deddf y Llywodraeth er mwyn newid canllawiau hunan-ynysu i weithwyr ac osgoi sefyllfa fel hon.

Mae Co-op Llanbed yn fan siopa prysur gan bobl leol ynghyd ag ymwelwyr ar eu taith a’u gwyliau i’r arfordir.  Roedd yn dipyn o siom heddiw i lawer felly i ddarganfod nad oedd digon o gynnyrch yno i’w prynu.

1 sylw

Lowri Jones
Lowri Jones

Mae’n debyg bod dim lagyr at ôl yn Sainsburys Llanbed echddoe (ffrind oedd yn chwilio, dim fi!) Diffyg gyrrwyr, oherwydd bod cymaint o’r gweithwyr o dramor wedi dychwelyd adre achos Brexit oedd y rheswm, yn ôl un gweithiwr.

Mae’r sylwadau wedi cau.