Simon Wright wedi’i benodi yn Athro Ymarfer yn Y Drindod Dewi Sant

Mae Simon Wright, perchennog bwytai, darlledwr, ysgrifennwr bwyd, ac ymgynghorydd wedi’i benodi i rôl Athro Ymarfer gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod).

gan Lowri Thomas

Dyfernir y teitl Athro Ymarfer i gydnabod arbenigrwydd academaidd a/neu broffesiynol unigolyn mewn maes sy’n alinio â chenhadaeth a chyfeiriad strategol y Brifysgol. Bydd arbenigedd yr Athro Simon Wright yn hanfodol wrth gynorthwyo’r Brifysgol i ddatblygu mentrau â’r nod o ddarparu twf economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n gysylltiedig â bwyd a llety lleol, cynaliadwyedd, amaethyddiaeth a menter wledig.

Mae’r Athro Wright yn eiriolwr adnabyddus dros gynnyrch bwyd a diod Cymreig, amaethyddiaeth gynaliadwy a’r diwydiant lletygarwch.  Mae e wedi rheoli bwytai yn Sir Gâr ers dros 30 blynedd ac wedi datblygu gyrfa fel darlledwr gan gymryd rhan mewn ystod o raglenni teledu a radio, yn cynnwys i’r BBC a Channel 4.  Ef oedd ymgynghorydd bwyty rhaglen ‘Ramsey’s Kitchen Nightmares’ yn y DU ac Ewrop am 10 mlynedd, ac fe fu’n arolygydd bwytai ar gyfer Canllaw Bwytai’r AA.  Yn 2012 cafodd ei enwi’n Llysgennad Bwyd Lleol Cymru a dyfarnwyd iddo Wobr ‘True Taste Champion’ Cymru yng ngwobrau blynyddol Llywodraeth Cymru am ei “ymroddiad a’i ymrwymiad i fwyd a diod Gymreig”.

Mae Simon wedi gwasanaethu ar Banel Sector Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru ac wedi cyfrannu am nifer o flynyddoedd at bolisi bwyd ar bob lefel o’r llywodraeth yn cynnwys Strategaeth Fwyd Cymru a’r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd. Yn fwy diweddar, fe fu’n gweithio gyda Choleg Sir Gâr ar ddylunio cyrsiau addysg bellach wedi’u seilio ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a lleol a gyda Chyngor Sir Gâr mewn ymdrechion radical i geisio rhoi bwyd lleol ar blât y cyhoedd.

Yn ddiweddar cydsefydlodd Gasgliad Bwytai Annibynnol Cymru yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector oherwydd Covid-19. Nawr, mae gan y Casgliad dros 300 o fusnesau sy’n ei gefnogi ledled Cymru ac mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar strategaethau ar gyfer goroesiad ac adferiad y sector.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Simon Wright, sydd hefyd â chefndir mewn Cynllunio Gwlad a Thref: “Rwy’n falch i gael y cyfle hwn i chwarae rhan wrth gefnogi uchelgeisiau’r Brifysgol ar gyfer adfywio cynaliadwy yng Ngorllewin Cymru wedi’i seilio ar yr economi wledig ac yn arbennig y diwydiannau bwyd a lletygarwch. Ni fu erioed o’r blaen amser mwy hanfodol a dwys ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn. Rwy’n frwd dros fwyd lleol a phopeth a ddaw yn ei sgil – cymuned, tirwedd, amaethyddiaeth – ac rwyf wrth fy modd i gael y cyfle hwn a gallu chwarae rhan wrth siapio dyfodol bwyd a ffermio yng Ngorllewin Cymru a thu hwnt”.

Bydd yr Athro Wright yn rhan o’r tîm sy’n darparu Canolfan Tir Glas, datblygiad mawr ar Gampws Llambed y Brifysgol. Ei nod yw hyrwyddo’r diwydiant bwyd lleol, cynaliadwyedd lleol, gwydnwch a menter mewn cyd-destun gwledig. Gan weithio’n agos â Chyngor Sir Ceredigion ac ystod o sefydliadau lleol, bydd y fenter yn cryfhau seilwaith economaidd Llambed a’r cyffiniau.

Rhan greiddiol o’r cynllun yw’r cydweithio â’r manwerthwr bwyd Aldi i ddatblygu pentref bwyd ar ran o gaeau Pontfaen y Brifysgol, yn ogystal â chanolfan hyfforddi ym maes bwyd a lletygarwch yn y dref. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys creu Canolfan Menter Wledig a Phrifysgol Gastronomeg ar gampws y Brifysgol ei hun.   Bydd yr Athro Wright yn cynorthwyo gyda datblygiad bwyty hyfforddi Llambed fel allfa fasnachol ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod lleol a rhanbarthol, gan helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol a gweithgynhyrchu bwyd cynradd ac eilaidd yn yr ardal.

Fe fydd hefyd yn cefnogi ymchwil a mentergarwch, yn ogystal â datblygiad y cwricwlwm ar bob lefel ar draws Grŵp Y Drindod, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau cyfansoddol.

Meddai Barry Liles, Pro Is-Ganghellor ar gyfer Sgiliau a Dysgu Gydol Oes a Phennaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelfyddydau Cymru: “Mae’n bleser gennyf groesawu Simon Wright yn Athro Ymarfer i’r Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn elwa o’i arbenigedd a phrofiad yn y diwydiannau bwyd a lletygarwch, ac yn arbennig, anghenion a gofynion y diwydiannau hynny y nghymunedau gwledig Gorllewin Cymru. Rydym yn datblygu cwricwlwm cyffrous, yn ogystal â mentrau ymchwil a mentergarwch i sicrhau bod y sector hanfodol hwn yn cael ei gefnogi gan weithlu crefftus yn ogystal â chael mynediad i arbenigedd, technoleg ac arloesedd y Brifysgol, yn arbennig ar ôl COVID”.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed, sy’n arwain datblygiad Canolfan Tir Glas: “Rwyf wrth fy modd y bydd Simon Wright yn rhoi ei arbenigedd i ddatblygiad Canolfan Tir Glas. Adfywio economaidd sy’n sail i’r fenter hon, gyda’r nod o greu swyddi newydd, denu llawer mwy o ymwelwyr i’r dref a chynyddu’r nifer o fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach sy’n astudio yn Llambed.  Bydd ei fewnwelediad a’i arweinyddiaeth ar agweddau ar y prosiect yn amhrisiadwy.”

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae penodi Simon Wright yn Athro Ymarfer yn ganolog i strategaeth y Brifysgol ar gyfer datblygu darpariaeth yn Llambed sy’n gysylltiedig ag anghenion yr ardal a meysydd blaenoriaeth y sector llywodraeth. Nod datblygu’r cyfryw ddarpariaeth yw cefnogi adfywiad a gwydnwch ein cymunedau, ar ôl y pandemig, trwy drosglwyddo gwybodaeth, arloesi ymchwil, datblygu’r gweithlu a thrwy darparu piblinell parod o fyfyrwyr a graddedigion crefftus, llythrennog yn ddigidol, mewn partneriaeth â chyflogwyr.  Y diwydiannau bwyd, ffermio a lletygarwch yw prif gynheiliaid y cymunedau hynny yng Ngorllewin Cymru ac mae profiad yr Athro Wright o roi cyngor ar bolisi’r llywodraeth ac o weithio yn y meysydd hyn dros y 30 blynedd diwethaf yn ei wneud yn ased mawr i’r Brifysgol.  Mae’n bleser gennyf ei groesawu i gymuned Y Drindod Dewi Sant.”