Sioe Ddigidol C.Ff.I. Llanllwni.

Dyddiad cau y sioe yn agosau.

Siriol Howells
gan Siriol Howells

Fel y gwyddoch eisioes, rydym ni fel clwb wedi penderfynu i gynnal ein sioe flynyddol yn ddigidol eleni eto, er mwyn cadw nid yn unig ein aelodau ond y gymuned yn ddiogel. Rydym eisioes yn derbyn ceisiadau ar gyfer yr amrywiaeth o gystadlaethau ar gyfer y sioe.

Gyda’r dyddiad cau yn agosau, sef y 11/08/2021, nid yw’n rhy hwyr ichi rhoi eich ceisiadau i fewn. Os hoffech wneud, gallwch dderbyn mwy o wybodaeth am y cystadlaethau a sut i’w anfon ymlaen atom gallwch eu darganfod ar ddudalen Facebook Sioe Llanllwni.

Fe fyddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau eto ar dudalen Facebook Sioe Llanllwni ar ddyddiad arferol y sioe, sef dydd Llun Gwyl y Banc sef y 30/08/2021.

Gobeithiwn erbyn 2022 gallwn edrych ymlaen at flwyddyn lawn o gystadlu a chymdeithasu o fewn y mudiad a’ch cefnogaeth i gael cynnal Sioe lewyrchus ar Ddydd Llun Gwyl y Banc y 29ain o Awst 2022.