Mae Elliw Dafydd o fferm Gwarffynnon wedi bod yn rhannu ei siom o golli allan ar un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr amaethyddol.
Roedd disgwyl i’r Sioe Amaethyddol fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal fis Gorffennaf ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws wedi golygu nad oedd dewis ond canslo.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Sioe orfod cael ei gohirio oherwydd y pandemig.
“Mae o’n siomedig iawn ond yn hollol ddealladwy”
“Mae o’n siomedig iawn ond yn hollol ddealladwy,” meddai Elliw Dafydd wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw.
Ei phryder pennaf, meddai, yw sicrhau bod y Sioe yn derbyn y gefnogaeth ariannol mae’n ei haeddu, er mwyn sicrhau ei chynhaliaeth ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r Sioe Frenhinol wedi gwneud gymaint i gefnogi sioeau bach, cymdeithasau a thraddodiadau cefn gwlad Cymru,” meddai.
“Mae’n siop ffenest i amaethyddiaeth dros Ewrop ac mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod hynny’n cael chwarae teg a sicrhau bod modd cario ‘mlaen i’r dyfodol.
“Mae angen gwneud yn siŵr bod y digwyddiadau ‘na yn mynd i fod i bobl gael mwynhau dros y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd bod rhaid derbyn y penderfyniad yn y gobaith cawn fwynhau’r Sioe fwy nag erioed flwyddyn nesaf.