Siop Gwarchod Hinsawdd Llanbedr Pont Steffan

Gwerthu nwyddau ail law yn adeilad yr hen swyddfa bost er mwyn helpu ffermwyr Cenia i blannu coed.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae ’na siop newydd wedi agor yn adeilad yr Hen Swyddfa Bost, Stryd y Coleg, Llanbed wythnos yma. Siop Gwarchod Hinsawdd ydyw a Ru Hartwell o Langeitho sydd wrth wraidd y fenter. Llwyddais i gael gair gyda Ru tra roedd yn gorffen rhoi pethau’n mewn trefn ar gyfer agor y siop.

Beth yw’r Siop Gwarchod Hinsawdd?

Mae ein harferion siopa o brynu nwyddau newydd sbon yn medru cael effaith ar yr amgylchedd. Caiff llawer o’r nwyddau newydd hyn eu cynhyrchu dramor a’u hallforio ar draws y byd. Mae hynny’n cael effaith ar y blaned. E.e. mewn ffôn clyfar ceir tua 60 o fwynau gwahanol a gloddiwyd mewn chwareli a mwyngloddiau ar draws y byd. Yn anffodus, nid yw pob chwarel yn gweithredu mewn dulliau sy’n gwarchod yr amgylchedd a natur.

Yn y Siop Gwarchod Hinsawdd ’rydym am gynnig dewis arall. Mae’r nwyddau a werthir yn rhai ail-law. Fe’u rhoddwyd i ni gan bobl garedig yn y gymuned leol. Ein nòd yw galluogi eraill i gael defnydd ohonynt a’u harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi. O wneud hynny, ’rydym yn lleihau’r angen i gwmnïau gynhyrchu nwyddau newydd all ysbeilio adnoddau naturiol ein byd.

Felly Ru, mae’r siop yn llawn eitemau sydd wedi eu rhoi i chi. Pa fath o nwyddau sydd gennych?

Nwyddau tŷ, offer cegin, dillad glân, llyfrau eitha’ diweddar, teclynnau ac offer trydanol. Gorau oll os yw’r eitemau’n lân, mewn cyflwr da ac yn gweithio oherwydd maent yn haws eu gwerthu. ’Rydym wedi cael cynnig ceir yn ddiweddar – ond ’does neb wedi cynnig ‘Rolls Royce’ na ‘Daimler’ cyn belled!

’Rwy’n deall Ru bod gennych drefn anghyffredin o brisio’r nwyddau. Allwch chi egluro sut mae’n gweithio?

Bydd yr arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr tlawd Cenia i blannu coed. ’Rydym wedi prisio’n nwyddau mewn ‘coed i’w plannu’ yn hytrach na phunnoedd felly 20 ceiniog yw pris coeden. E.e. gall pris tegell fod yn 15 ‘coeden i’w plannu’ sy’n cyfateb i £3. Byddwch angen rhannu’r prisiau gyda 5 i’w trosi’n arian. Credaf mai dyma’r siop gyntaf o’i bath i ddefnyddio’r dull yma o brisio. Efallai bydd y drefn yn anghyfarwydd ar y cychwyn ond buan daw pobl i arfer â hi. Bydd gennym gardiau trosi prisiau o goed i bunnoedd i helpu pobl ddeall gwerth ein prisiau.

Wel am syniad gwreiddiol i brisio pethau fesul coeden yn hytrach na phunnoedd! Fedrwch chi egluro i ni sut fydd yr arian fyddwch yn ei godi yn gwella bywydau ac yn gwarchod y blaned?

’Rydym yn ddibynnol ar gymorth gwirfoddolwyr a rhoddwyr. Ein rhoddwyr sydd wedi cyfrannu at a thalu am gostau rhedeg y cynllun. Mae pob ceiniog o elw a wneir yn y siop yn mynd tuag at gynllun coedwig gymunedol ein partneriaid yn Rhanbarth yr Arfordir, Cenia. Sefydlwyd y cynllun yn 2008 ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac elusennau megis ‘Maint Cymru’.

Mae gennym bellach ddwy feithrinfa goed sy’n cyflogi 70 o wragedd yn rhan-amser. Maent yn dosbarthu coed am ddim i rwydwaith o 2500 o ffermwyr tlawd a 250 o ysgolion. ’Rydym yn hau a medi 500,000 o goed ifanc yn flynyddol ac maent yn ffynhonnell incwm a bwyd i boblogaeth sy’n gweld eu hinsawdd yn newid yn gyflym. Mae’r coed ifanc hyn yn cynnwys mango, cnau cashew a ‘moringa’ i gynhyrchu bwyd: coed ‘cauarina’ a ‘neem’ yn bren; a choedydd cynhenid ar gyfer bio amrywiaeth.

Dengys y dystiolaeth o’r ymchwil wyddonol bod coed mewn ardal drofannol o gymorth i gadw’r blaned rhag gorboethi. Mae’r coed hefyd yn lleihau lefelau’r carbon a hynny yn y pen draw o gymorth i bawb.

’Rwy’n cymryd y byddwch angen mwy o eitemau a nwyddau ar gyfer y siop yn Llanbed. Sut all y cyhoedd gyfrannu eu rhoddion i chi?

’Rydym o hyd angen cyflenwadau o eitemau i’r siop. Cysylltwch gyda ni trwy ein dilyn ar Facebook a danfonwch neges atom neu e-bostiwch ni ar admin@climateshop.org. Ychydig o le sydd yn y siop felly ni allwn dderbyn eitemau mawr fel soffas neu gypyrddau dillad. Er hynny, gallwn gynnig eu gwerthu ar ran y rhoddwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwn drefnu amser i chi ddod â’r eitemau i’r siop a hefyd trefnu i gasglu pentwr mawr o eitemau yn ein fan.

Diolch yn fawr Ru am ein sgwrs. Os am gael gwybod am y newyddion diweddaraf am y Siop Gwarchod Hinsawdd ar y gwefannau cymdeithasol, sut allwn wneud hynny?

Edrychwch ar ein gwefan neu medrwch ein dilyn ar Facebook. Diolch yn fawr i Clonc360 am y cwestiynau ac i bawb am bob cymorth a chefnogaeth i’r Siop Gwarchod Hinsawdd yn Llanbed.