Dim Steddfod na Sioe eleni, ond bwydo’r G7.

Cwmni o Lanwenog yn rhan o wasanaeth arlwyo’r uwchgynhadledd yng Nghernyw.

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cwmni Cegin Gwenog y cyfrifoldeb o redeg Hwb A yn Uwchgynhadledd G7 ym Modmin, Cernyw.

Roedd y dasg yn cynnwys gweini prydau bwyd ar gyfer tua 1000 o heddweision bob dydd, dros 6 diwrnod gyda gwasanaeth 24 awr.

Mewn blwyddyn arferol byddai Cegin Gwenog yn paratoi bwyd ar gyfer y miloedd yn Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Fawr, felly mae’r perchnogion a’r staff yn gyfarwydd â pharatoi bwyd ar y raddfa fawr fel hon.

Cyfarfod pennau llywodraethol saith gwlad yw’r G7.  Yno roedd Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Angela Merkel, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Yoshihide Suga, Prif Weinidog Japan; Mario Draghi, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada.

Aeth 13 o staff Cegin Gwenog gyda Tony a Mair lawr i Gernyw ac yna cafwyd gweddill y staff gan asiantaethau arlwyo.

Bu llawer iawn o waith cynllunio ar gyfer yr wythnos a chafodd Cegin Gwenog y gwahoddiad i arlwyo tua chanol mis Ebrill.  Roedd y prif gwmni arlwyo Streamline Leisure wedi holi i Tony a Mair Hatcher o gwmni Cegin Gwenog i reoli’r Hwb hwn ar eu cyfer.

O ran rheolau Covid, roedd y staff i gyd yn cae prawf bob deuddydd ac yna yn derbyn band braich lliw gwahnaol bob tro i ddangos eu bod yn glir. Roedd pawb yn gwisgo masgiau drwy’r amser ac roedd sgriniau a diheintydd ym mhobman. Yn ogystal â hynny byddai’r ‘Enviromental Health’ yn galw bob dydd.

Roedd diogelwch llym wrth y gatiau wrth fynd mewn i’r hwb, ond roedd y staff i gyd yn sefyll ar y campws drwy gydol yr amser.

Roedd 3 hwb bwyd i gael yno i gyd a chwmni Castell Howell yn teithio dros nos i fynd â chyflenwad bwyd iddynt erbyn tua phump o’r gloch bob bore, felly roedd tri chwmni o Orllewin Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd ar gyfer yr uwchgynhadledd fyd eang hon.

Hoffai Tony a Mair ddiolch i’r holl staff dan sylw am eu gwaith caled gan ei wneud yn ddigwyddiad llwyddiannus.