Ugain mlynedd yn ôl roedd tair tafarn lewyrchus yng Nghwmann, ond gyda chynlluniau arfaethedig perchennog presennol Tafarn Cwmann fydd dim un dafarn ar ôl yn y pentref.
Cyflwynodd Mr Nick Wright y perchennog gais cynllunio i Gyngor Sir Caerfyrddin ar y 29ain Ionawr er mwyn newid y defnydd o dafarn yn 2 fflat preswyl a dymchwel yr estyniad to fflat. Gellir gweld y cynlluniau a gadael sylwadau ar wefan y cyngor.
Mae Nick Wright yn berchen ar sawl tafarn yn nhref Llanbed ac wedi eu hadnewyddu dros y blynyddoedd diwethaf yn lefydd cyfoes a chyffyrddus i yfed a bwyta mas.
Gŵyr pawb fod tafarnau ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, ond mae’n deimlad rhyfedd i feddwl na fydd yr un dafarn ar agor yng Nghwmann wedi’r cyfnod clo er mwyn cymdeithasu a mwynhau unwaith eto.
Ceuwyd tafarn y Lock & Key rhyw ddeunaw mlynedd yn ôl a chyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf y bydd Tafarn y Ram yn newid i aneddau preswyl wedi penderfyniad apêl gynllunio.
Mae Tafarn Cwmann yn dafarn hanesyddol o’r 16eg ganrif gyda’i phresenoldeb amlwg ar sgwâr y pentref yn croesawu teithwyr o gyfeiriad Llanbed. Adeiladwyd yn wreiddiol ar lwybr y porthmyn.
Cyfeiria’r awdur hoffus D J Williams at Dafarn Cwmann wrth ddisgrifio Nwncwl Bili yn ei lyfr ‘Hen Dŷ Ffarm’. Gallai’r stori fechan hon fod yn perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif.
‘R oedd ef a Jemi’r Wenallt wedi troi i mewn i dafarn Cwm Ann, y tu faes i dre Llambed’ ar ochr Sir Gaerfyrddin, ar y ffordd adref o ryw ffair. Digwyddai’r stafell yr aethant iddi fod yn llawn Cornishmen o waith mwyn mynydd Cellan, – wyth ohonynt, meddai’r stori. O dipyn i beth dechreuodd rhai ohonynt figitian y ddau Gymro, a thynnu cweryl. Pan welodd Jemi ei bod hi’n twymo at sgarmes yno cyrhaeddodd gic ar un o’r Cornish, a dianc drwy’r drws gan obeithio’n ddiau y byddai Bili, o dan yr amgylchiadau, yn ei ddilyn. A dyna’r uwd i’r tân. ‘R oedd allwedd y stafell yn digwydd bod yn y drws, o’r tu fewn. Clôdd un ohonynt y drws, gan roi’r allwedd yn ei boced. Trechu neu drengi amdani, bellach. Yn ôl y stori, eto, – coes y stôl yn llaw Bili oedd yr unig ddarn cyfan o’r celfi ar ôl erbyn gorffen y dyrnu a’r malu a fu yno.
Mae hon yn un o ganoedd o straeon difyr y gallai pedair wal Tafarn Cwmann adrodd petaent yn gallu siarad.
Cofia llawer am y croeso cynnes oedd gan Glyn a Coral Evans y cyn berchnogion yn Nhafarn Cwmann a’r bwyd blasus a weinwyd yno dros y blynyddoedd. Ydyn ni i gyd yn euog o gymryd moethusrwydd fel hynny’n ganiataol yn ein pentrefi ac ond yn barod i fynegi barn wedi i ni eu colli nhw?
Ar y llaw arall, ydy cyfnod tafarnau pentref yn dod i ben? Neu a oes modd meddwl am ddefnydd buddiol a chymunedol arall i’r canolfannau hyn ar gyfer y dyfodol?