gan
Siwan Richards
Mae hon yn daith o 8km/ 5 milltir gan ddechrau o Dafarn y Grannell.
Taith gymedrol 5 milltir o bentref Llanwnnen. Mae’r daith yn eich arwain ar hyd lonydd tawel, trwy dir ffermio ac ar dros yr Afon Grannell.
Gellir gweld y daith yma.
Cofiwch …
- Ymgyfarwyddo ag unrhyw ganllawiau cyfredol, lleol ynghylch teithio i wneud ymarfer corff.
- Cadw pellter cymdeithasol bob amser, parchu’r amgylchedd a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Mae mwy o wybodaeth am gynllun ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar gael ar dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor.
Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.
Pob hwyl ar eich taith!