Tanysgrifio’n ddigidol i Bapur Bro Clonc

Cynllun Bro360 yn cydweithio â Phapur Bro Clonc er mwyn darparu cyfleuster tanysgrifio digidol.

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Mae rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc yn y siopau lleol erbyn hyn a rhyw hanner cant o gopïau wedi eu postio at danysgrifwyr.

Yn draddodiadol, drwy’r post oedd yr unig ffordd i danysgrifio i Bapur Bro Clonc a hynny am £17.50 y flwyddyn, ond mae’n bosib tanysgrifio’n ddigidol nawr am ond £10.00 y flwyddyn, diolch am gydweithrediad cynllun Bro360.

Byddai tanysgrifio’n ddigidol yn golygu y gallech ddarllen Clonc ar eich dyfais boed yn gyfrifiadur neu ffôn clyfar a hynny yn lleol neu oddi cartref.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn tanysgrifio’n ddigidol i Bapur Bro Clonc.  Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr iawn er mwyn parhau gyda chyhoeddi’r papur bro, boed hynny drwy brynu yn y siopau lleol neu drwy danysgrifiad.

Dywed Dylan Lewis Cadeirydd Clonc “Bu’r rhifynnau digidol yn boblogaidd iawn adeg y cyfnod clo gwreiddiol llynedd.  Mae copïau papur ar gael yn y siopau erbyn hyn, ond mae cynnig tanysgrifiad digidol yn rhoi’r dewis i’r darllenwyr i bori drwy’r papur bro yn y ffordd sydd mwyaf hwylus iddyn nhw a’u gadael i ddilyn beth yw eu haeferion darllen presennol.”

Os ydych yn adnabod rhywun sy’n byw yn bell o’r ardal, neu rywun sy’n gaeth i’r tŷ, wel dyma anrheg ddelfrydol ac ymarferol iddyn nhw.

Mae’r tanysgrifio digidol yn wasanaeth newydd sbon ac o bosib bydd ambell broblem technegol ar y dechrau.  Croeso i unrhyw un gysylltu drwy’r ddolen “Cysylltu â ni” sydd ar waelod bob tudalen, os oes unrhyw drafferth.