Trêd arbennig o dda yn parhau yn y Mart

Adroddiad Mart Da Stôr yn Llanybydder ar yr 11eg Medi.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd bron i 600 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd arbennig o dda drwy gydol y sêl.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1,720 o eiddo Bowen, Pwllglas a werthodd yr aner orau am £1,530 o eiddo Davies, Blaenbronfaen. Gwerthodd y baren orau am £1,270 o eiddo Oliver, Penbanc. Gwerthodd y tarw gorau am £940 o eiddo Davies Nantyfen a’r pris uchaf am fuwch a llo oedd £1,880 o eiddo Davies, Gwardafolog.

Rhai dyddiadau i’ch dyddiadur ar gyfer y misoedd nesaf gan bydd 3 marchnad gwartheg ym mis Hydref.

9fed o Hydref – da stôr

23ain o Hydref – gwartheg magu

30ain o Hydref – ffair cyntaf

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Lanybydder yn fwy aml dros y misoedd nesaf gan ein bod nawr yn y cyfnod mwyaf prysur o’r flwyddyn.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor esmwyth.