Trêd da o’r dechrau i’r diwedd yn Llanybydder

Adroddiad Mart Da Stôr Llanybydder ddydd Sadwrn.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd dros 400 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd da o’r dechrau i’r diwedd.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1720 o eiddo Evans, Tandderi a’r aner orau am £1500 o eiddo Evans Bros, Penbryn. Y pris gorau am fuwch oedd £1340 o eiddo Rees, Cenfgwyddil a gwerthwyd y tarw gorau am £1410 o eiddo Morgans, Blaengorlech.

Bydd y farchnad nesaf o dda stôr ar yr 10fed o Orffennaf felly cofiwch gofrestru yn gynnar os oes stoc gyda chi i’w gwerthu.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad.