Ers dechrau mis Mawrth, mae Gwenllian Jenkins, prop 20 oed o Lanwnnen, wedi bod yn teithio i’r De dair gwaith yr wythnos er mwyn mynychu ymarferion Rygbi Menywod Cymru.
Ar ôl ennill dau gap ym mis Tachwedd 2019, penderfynodd Gwenllian gamu’n ôl o’i dyletswyddau rhyngwladol dros dro. Nid yw gêm y menywod yn un broffesiynol ac felly mae gan y rhan fwyaf o’r chwaraewyr dipyn o fwrlwm yn eu bywydau yn ogystal â chwarae rygbi i Gymru. Ond, er ei hymrwymiad i’w gwaith llawn amser, ar gais yr hyfforddwyr fe ail-ymunodd hi â rygbi rhyngwladol eleni.
Cafodd Gwenllian ei henwi yn y garfan estynedig ar gyfer Tîm Rygbi Menywod Cymru gan y Prif Hyfforddwr newydd, Warren Abrahams, ar y 24ain o Chwefror. Yna, fis yn ddiweddarach, enwodd Abrahams ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad. Torrodd ei restr gwreiddiol o 48 o enwau i 32 enw yn unig. Yn wir, roedd enw’r ferch o Lanwnnen yno unwaith eto.
Dywedodd Jenkins, sy’n brentis yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, “Penderfynais i ail-ymuno eleni gan fy mod i’n teimlo’n fwy parod i gymryd y cyfrifoldebau, yr heriau a’r profiadau sy’n dod o fod yn rhan o garfan ryngwladol. Ma’ pump prop wedi cael eu dewis yn rhan o garfan chwe gwlad Cymru ac mae’r hynaf yn 35 oed. Fi’n 20 oed felly fi’n un o’r rhai ifancaf yn y garfan ar hyn o bryd.”
Pan ddaeth hi’n amser datgelu carfan Cymru i wynebu Ffrainc ym Mharis ar y 3ydd o Ebrill, ni ymddangosodd enw Gwenllian yn y garfan o 23. Wedi dweud hynny, gofynwyd i’r prop ifanc hedfan i Ffrainc gyda’r tîm yn un o ddwy chwaraewraig wrth gefn. Gyda Gwenllian yn gwylio’r gêm o’r stondin, collodd Cymru 53-0. Wrth sôn am y profiad o gael ei dewis fel chwaraewraig wrth gefn unwaith eto ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon heddiw, dywed Gwenllian:
“Yn fwy na dim, dw i’n ddiolchgar o gael bod ar y cae chwarae o gwbl yn y sefyllfa sydd ohoni ar y funud. Dw i wir yn mwynhau mynychu’r ymarferion a dw i wrth fy modd gyda’r ochr corfforol. Hoffen i ddangos i ferched yr ardal bod nhw’n gallu chwarae rygbi a ffynnu mewn camp sydd dal yn cael ei labelu fel gêm i ddynion gan rai.”
Bydd Tîm Rygbi Menywod Cymru yn chwarae eu hail gêm yn y bencampwriaeth ym Maes yr Arfau heddiw, dydd Sadwrn y 10fed o Ebrill, am 5 o’r gloch. Gellir gwylio’r cyfan yn fyw ar BBC2.