Wythnos brysur ym marchnad Llanybydder

Dwy farchnad Nadolig lwyddiannus iawn

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans
267604576_4698642016825576

Yr anifail gorau yn y mart Dydd Sadwrn

Mart Llanybydder yn llawn ar gyfer yr arwerthiannau nadolig. 

Bu’r wythnos diwethaf yn un brysur ym marchand Llanybydder gan mai Dydd Llun oedd yr arwerthiant nadolig ar gyfer y defaid a Dydd Sadwrn cynhaliwyd yr arwethiant nadolig o wartheg.

Dydd Llun y 6ed o Ragfyr 

Defaid lladd hyd at £150

Hyrddod lladd hyd at £111

Ŵyn tew £250 y pen £6.10pkg

1146 o ŵyn stor hyd at £135

Moch hyd at £190

Lloi hyd at £280

Diolch i Llyr James o gigyddion Bow Street am fodloni i feirniadu gyda ni a llongyfarchiadau i bob un wnaeth gymryd rhan yn y sioe o ŵyn tew.  Diolch hefyd i’r cwmniau lleol am noddi’r gwobrau.

Llongyfachiadau i Carwyn Lewis, Gwarcoed Einon am ddod i’r brig gyda’r ŵyn gorau a aeth ymlaen i werthu am £250 yr un. Enillodd Carwyn y wobr yn yr adran CFfI hefyd a bydd y wobr ar ei ffordd i Glwb Pontsian.

Diolch i gwmni celfi Davies and Davies, Drefach Felindre am rodd o ddafad ‘Ewemoo’ a werthodd am £350. Bydd yr arian i gyda yn mynd at elusen Tir Dewi. Diolch hefyd i deulu Davies, Pistyllgwyn am eu rhodd o oen tew, gyda’r arian hefyd yn mynd at Tir Dewi.

Dydd Sadwrn y 11eg o Ragfyr

Gwerthwyd dros 400 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd da iawn unwaith eto. Gallwn gadarnhau bod dros 7,000 o wartheg wedi mynd trwy farchnad Llanybydder eleni sydd yn gyfanswm arbennig o dda.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1,830 o eiddo Thomas, Maesymeillion a gwerthodd yr aner orau am £1,860 o eiddo Guto Jones, Neuadd.

Llongyfarchaidau i bawb wnaeth drio yn y sioe. Carwyn Lewis, Gwarcoed Einon ddaeth i’r brig gyda’r anifail gorau a Guto Jones, Neuadd ddaeth i’r brig yn adran CFfI. Diolch unwaith eto i’r busnesau lleol am noddi’r gwobrau ac i Llyr James, cigyddion Bow Street am feriniadu unwaith eto.

Yr 8fed o Ionawr bydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn prynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.

Hoffem hefyd ddiolch i bawb boed yn prynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad drwy gydol 2021. Dydd Llun yr 20fed o Ragfyr fydd yr arwerthiant olaf am eleni.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gwsmeriaid a gobeithiwn am flwyddyn lewyrchus arall yn 2022.