Wedi i ddisgyblion y cyfnod sylfaen ddychwelyd i’r ysgol wythnos ddiwethaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor, mae yna gynlluniau gan Ysgol Bro Pedr i ail-gyflwyno pawb i’r ystafell ddosbarth.
Mi fydd disgyblion blynyddoedd 11, 12 a 13 yn dychwelyd ar yr un pryd ar Ddydd Llun y 15fed o Fawrth. Yna disgwylir i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 i gyd ddychwelyd i gampws cynradd Ysgol Bro Pedr yn ystod yr wythnos y 15fed o Fawrth.
Wythnos yn ddiweddarach, mi fydd disgyblion blwyddyn 10 yn dychwelyd am wythnos cyn gwyliau’r Pasg.
Yn ôl y gweinidog addysg, y prif reswm am ddychwelyd cyn y Pasg yw er mwyn i ddisgyblion cael y cyfle i ‘weld eu hathrawon’ a disgwylir cadarnhad o’r penderfyniadau yma yn y datganiad ar y 12fed o Fawrth.
Er bod y penawdau cenedlaethol heddiw yn awgrymu bydd disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 nôl hefyd, dim ond ychydig fydd, gyda’r mwyafrif yn dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.
Yn wahanol i fis Medi, mi fydd masgiau yn ofynnol yn y dosbarth ynghyd â mannau cymunedol gan gynnwys y tu allan.
Mi fydd profion llif unffordd (LFT) yn ofynnol dwywaith yr wythnos i ddisgyblion blynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn ogystal â phob aelod staff.
Mae’r mesuriadau yn eu lle i ddiogelu disgyblion a staff yr ysgol yn ogystal â’r gymuned leol ac i geisio lleihau’r tebygolrwydd o orfod ynysu grŵp cyswllt.