gan
Ifan Meredith
Diolch i ddisgyblion blwyddyn 7, y criw Sgiliau Bywyd ac i ddosbarth 8/9Steffan Miss Chapman am greu llwyth o babïau coch dros y diwrnodau diwethaf ar gyfer ein gardd coffa. Roedd dros 500 yn y pen draw ac roedd y disgyblion hyd yn oed wedi ysgrifennu enwau rhai o’r milwyr lleol a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu pabïau.
Yn ystod y wers gyntaf, daeth y disgyblion i blannu eu pabïau yng nghanol y silwetau o filwyr a’r teils ceramig o filwyr lleol a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Am 11 o’r gloch bore ddoe ymunodd rhai disgyblion â Mr Aled Rumble a Mr Deiniol Williams o’r adran hanes am funud o dawelwch ger yr ardd goffa.
Diolch hefyd i bob aelod o staff oedd ynghlwm â’r trefnu.