Lluniau gan Aneurin James
Wedi’r ddwy flynedd goll cafwyd gŵyl o gystadlu unwaith eto yn Nrefach ar ddydd Llun cyntaf mis Mai wrth i Rasys Hwyl Dyffryn Cledlyn ddenu rhedwyr o bob oedran i gefnogi Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn, a doedd neb yn achwyn ar y tamaid prin o law mân a gafwyd o bryd i’w gilydd.
Yn 7fed yn y ras 10 milltir yn Llanbed wythnos yn ôl doedd neb yn gallu gorffen y ras 5 milltir i oedolion yn gynt na Mark Horsman o glwb Pontypridd a’i amser (28 munud 59 eiliad) yw’r cyflymaf hyd yn hyn dros y cwrs yma sy’n cychwyn ar ffordd gefn ger Drefach ac yn dringo Rhiw Siôn cyn ymlwybro’n ôl allan i’r ffordd fawr o Lanwnnen i orffen ger mynedfa’r Ysgol. Ymwelydd hefyd oedd y fenyw gyntaf, Clare Patterson (32:48) o Griffithstown ger Pont-y-pŵl. Dim syndod mai Clwb Sarn Helen enillodd y wobr tîm – yr oedd gan y Clwb 31 allan o’r 62 wnaeth gwblhau’r ras gyda Dylan Lewis (29:26) yn ail a Simon Hall (30:54) yn 3ydd. George Eadon (31:15) yn 5ed a Michael Davies (31:31) yn 6ed (ac yn 1af yn nosbarth y dynion dros 50) oedd aelodau eraill y tîm buddugol. Yn glos ar eu sodlau yr oedd tri aelod arall o’r clwb – Irfon Thomas (31:50 ac yn 3ydd yn y dosbarth dan 35) Carwyn Davies (32:23) a Steffan Thomas (32:26). Rhedwyr Sarn Helen hefyd oedd yr ail a’r 3ydd o’r dynion dros 50 – Glyn Price (33:31) ac Arwyn Davies (33:55). Daeth gwobrau hefyd i fenywod Sarn Helen gyda Lou Summers (34:02 a’r enillydd dros 45) a Dee Jolly (34:37) yr ail a’r 3ydd i groesi’r llinell. Cafodd trefnydd y ras, Eleri Rivers (38:05), y boddhad o ennill yr ail wobr i’r menywod dros 45 ac aelod arall o’r clwb, Delyth Crimes (42:33) oedd yn 3ydd yn y dosbarth hwnnw.
Y mae pedair ras ieuenctid hefyd yn rhan o’r digwyddiad ac yr oedd aelodau ifanc y clwb yn amlwg yma hefyd. Yn y ras uwchradd (dan 16) daeth Harri Rivers (9:52) yn 3ydd fachgen a Sioned Kersey (10:51) yn ail ferch. Yn y ras cyfnod allweddol (blwyddyn 5 a 6) daeth Eva Davies (4:26) yn ail ferch a Ben Hall (4:37) yn 5ed fachgen. Yn y ras i flwyddyn 3 a 4 y ferch gyntaf ac yn ail yn y ras gyfan oedd Eva Davies (4:15) gydag Elin Onwy (4:31) yn ail a thrwch blewyn oedd yn rhannu Jacob Burton (4:35) a Jeston Allan (4:35) am y 4ydd a’r 5 safle ymhlith y bechgyn. Brwydr i’r ysgolion yn unig oedd ras y cyfnod sylfaen gyda Leighton Davies (2:04) ac Oliver Readwin ((2:08) o Ysgol Carreg Hirfaen yn gyntaf ac ail gyda Tomos Humphreys (2:07) o Ysgol Talgarreg yn eu gwahanu – aeth gwobrau’r merched i Manon Gruffudd (2:11) ac Anna Evans (2:17) o Ysgol Dyffryn Cledlyn ac Efa Allan (2:23) o Ysgol Bro Pedr.