Anne Thorne yn arwain Cwrdd Bethel Parc-y-rhos

Ffydd, Gobaith, Cariad a thaith Paul i Rufain a’r storm a darodd ef a’o gyd-deithwyr.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Cynhaliwyd cwrdd Bethel Parc-y-rhos ar Zoom ar y 7fed Ionawr oherwydd pryder yr aelodau ynglyn a Covid wrth ddod ynghyd ar hyn o bryd.

Anne Thorne a drefnodd y cwrdd ac arweiniodd aelodau a chyfeillion wrth ddilyn taith Paul i Rufain a’r storm a darodd ef a’i gyd-deithwyr er eu ffordd yno gan ganolbwyntio ar werthoedd “Ffydd, Gobaith a Chariad.”

Croesawodd Eric bawb i’r cwrdd gan wneud y cyflwyniadau a’r cyhoeddiadau.  Darllenodd Cyril bennod 27 o Lyfr yr Actau lle mae Luc yn adrodd yr hanes yn ogystal ag arwain gynulleidfa mewn gweddi, a darllenodd Dilwen emyn 837 o waith Sion Aled.

Croeso cynnes i chi wylio recordiad o’r cwrdd isod.