Barbeciw a Rownderi Cwmann

Dewch yn llu am noson o hwyl gyda’n gilydd

Meinir Evans
gan Meinir Evans

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann yn trefnu digwyddiad yn y pentref er mwyn dod â thrigolion y pentref ynghyd.

Cynhelir Rownderi a Barbyciw ar Gae Pentref Cwmann ar nos Sadwrn y 10fed o Fedi.

Bydd cystadleuaeth rownderi gyda gwobr gyntaf o £50 i’r tîm buddugol, bar ac adloniant.  Gofynnir am dimoedd o wyth person.

Cyfle i drigolion Cwmann gael clonc a noson o hwyl. Dewch yn llu!

1 sylw

Dylan Lewis
Dylan Lewis

Yn anffodus bydd rhaid gohirio’r digwyddiad hwn yn dilyn canllawiau Ffederasiwn Clwb Ffermwyr Ifanc Cenedlaethol. Ail drefnir ar gyfer y 24ain o Fedi am 5 o’r gloch. Dewch yn llu. Lledwch y neges.

Mae’r sylwadau wedi cau.