Betsan a Cathrin yn ddirpwy Llysgenhadon C.Ff.I. Sir Gâr

Llongyfarchiadau i ddwy weithgar iawn o Glwb Llanllwni.

gan Cffillanllwni
277691517_320016140056440

Betsan a Cathrin

277927787_398384838957813

Tim Llysgenhadon Cffi Sir Gar

Yn dilyn Dawns Dewis y Llysgenhadon nos Wener, fel clwb rydym ni’n falch iawn o ddwy o’n haelodau mwyaf gweithgar – Betsan Jones a Cathrin Jones, ar gael eu dewis yn rhan o dîm Llysgenhadon C.Ff.I. Sir Gâr am y flwyddyn sydd i ddod.

Nyrs Cymunedol yw Betsan o ddydd i ddydd, wedi graddio o Brifysgol Abertawe, a chyn hynny yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanllwni ac Ysgol Bro Pedr. Betsan yw Cadeirydd presennol y clwb. Mae Betsan yn tipyn o grefftwraig, wedi iddi gael llwyddiant ar sawl achlysur ym maes gwinio a thecstiliau, ond yr uchafbwynt iddi mae’n siwr oedd ennill dros Gymru a Lloegr am greu ffrog.  Mae Betsan hefyd wedi ennill sawl gwobr ym maes Siarad Cyhoeddus, gan ennill cwpan y siaradwr gorau yn 2020 ar lefel Cymru.

Mae Cathrin yn gweithio fel Cydlynydd Ymgysylltu yn Hwb Ffocws Caerfyrddin. Graddiodd Cathrin o Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gradd mewn Busnes yn 2020, er ei bod hi wedi gorfod aros 2 flynedd i wisgo’r cap a gown! Cathrin yw Ysgrifenyddes y clwb ar hyn o bryd, ac mae wedi cynrychioli’r clwb ar lefel Cymru a Chenedlaethol ar sawl achlysur. Bu’n rhan o’r grwp canu a fu’n cynrychioli C.Ff.I. Sir Gâr yn y Sioe Frenhinol, a hefyd yn rhan o dîm pêl-rwyd Sir Gâr a fu’n cynrychioli Cymru yn Stafford yn 2021. Mae Cathrin hefyd wedi cael ei dewis fel aelod o dîm Cymru a fydd yn teithio i’r Almaen ar gyfer y Rali Ewropeaidd ym mis Mehefin eleni – edrychwn ymlaen i glywed yr hanes!

Llongyfarchiadau fil i’r ddwy ohonoch, a diolch am eich ymroddiad i’r clwb a’r mudiad ar hyd y blynyddoedd.

Fel clwb hoffem hefyd longyfarch Mared Evans, o glwb Penybont ar gael ei dewis yn Lysgenhades y Sir. Nid yn unig mae Mared yn gyfarwydd i’r clwb fel partner Siôn, un o’n harweinyddion – ond mae ein dyled ni’n fawr i Mared am fod bob amser yn barod i’n hyfforddi i Siarad Cyhoeddus a Dawnsio Gwerin. Llongyfarchiadau mawr i ti Mared.

Dyma’r tim llawn –

Llysgenhades : Mared Evans, CFfI Penybont

Llysgennad : Ioan Harries, CFfI Llannon

Dirprwyon : – Betsan Jones, CFfI Llanllwni; Cathrin Jones, CFfI Llanllwni; Rosie Davies, CFfI Llannon; Jasmine Emerick, CFfI Llangadog.

Llongyfarchiadau i chi gyd.