Blog Byw : Eisteddfod yr Urdd Clonc360 (Diwedd yr wythnos)

Diweddariadau o Ddinbych yn ystod ail hanner wythnos Eisteddfod yr Urdd.

gan Ifan Meredith

Gyda llawer o eitemau o’r ardal wedi profi llwyddiant yn yr Eisteddfod Sirol, dyma Flog Byw o ail ran yr wythnos yn Sir Ddinbych.

Bydd gohebwyr Clonc360 ar y maes yn barod i’ch diweddaru chi.  Beth am ychwanegu eich newyddion, lluniau a’ch fideos chi o’r eisteddfod hefyd?

23:02

CFC67917-6022-4CEB-973AURDD GOBAITH CYMRU

Wrth i Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych ddod i ben, mae’r Urdd wedi datgan bod yr eisteddfod wedi gweld y niferoedd uchaf erioed.

Mewn ymateb i’w arbrawf i gynnig llwyfan i bawb meddant:

“Fel trefnwyr rydym ni’n falch fod yr arbrawf o gael tri phafiliwn yn hytrach na un, a chynnig llwyfan i bawb, wedi’i groesawu gan ein cystadleuwyr ac yn llwyddiant ysgubol. Byddwn yn parhau gyda’r datblygiad yma wrth drefnu Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.”

Maent hefyd yn ddiolchgar i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles a Llywodraeth Cymru am eu galluogi i ddarparu mynediad am ddim i bawb sydd wedi arwain at mwy o ymwelwyr i’r eisteddfod.

Yn ôl y datganiad darlledwyd 185 o oriau o gynnwys yr eisteddfod ar lwyfannau S4C a Radio Cymru a Radio Cymru 2.

“Y flwyddyn nesaf, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Gâr rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2023.”

18:22

C343C4E4-9417-4050-8F57-45E044DEEDD9

Llun: S4C

Catrin Jones o Lanwnnen a enillodd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.  Yn eu beirniadaeth dywedodd y beirniaid Anna Pritchard a Ffion Pritchard:

Dangosodd yr enillydd sgiliau aeddfed ac amrywiaeth yn ei gwaith gyda gwahanol gyfryngau. Mae’r gwaith yn creu elfen o sioc, yn destun sy’n gyfredol ac yn destun sgwrsio. Mae’r elfen 3D yn dod ag elfennau gwahanol i’r gwaith.”

Mae Catrin yn 18 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr.  Mae hi newydd gwblhau ei harholiadau Safon A mewn Celf, Hanes ac Addysg Grefyddol. Yn y dyfodol hoffai ddilyn cwrs sylfaen mewn celf ac yna symud ymlaen i gwrs gradd.

17:29

Elan Jones, Cwmann ac Aelwyd Llanbed yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Llefaru i oedrannau 19-25. 

09:36

9FB77191-6BD9-4A92-97EBURDD GOBAITH CYMRU

Dydd ola’r cystadlu yn fyw ar y blog hwn wrth i Elan Jones, Cwmann gystadlu yng nghystadleuaeth y Llefaru unigol i oedrannau 19 hyd at 25.

22:33

Ysgol Bro Pedr yn cipio’r cyntaf a’r ail am y gystadleuaeth Trin Gwallt i flynyddoedd 10 a than 13 gyda Lizzie Lomas a’i model, Amber Tomsett yn dod yn gyntaf a Jessica Thomas a’i model, Amy Rawstron yn dod yn ail. 

16:44

Côr Merched Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Côr Merched S. A. i flynyddoedd 13 ac iau. 

15:53

Twm Ebbsworth, Llenor y Gadair heddiw – “Hiwmor tywyll, ffraethineb, gwreiddioldeb, llenor aeddfed a chrefftus, wnaeth ein tywyss ar daith wallgof a gwahanol” Siân Northey a Gwenno Mair Davies y beirniaid.

15:18

Twm Ebbsowrth, Llanwnnen ac aelod o Aelwyd Pantycelyn yw enillydd Coron Eisteddfod Eisteddfod yr Urdd 2022. 

15:18

Twm Ebbsworth, Llanwnnen yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2022. 

15:15

Zara Evans, Ysgol Bro Pedr wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaethau Cerdd Dant i flynyddoedd 10 a than 19 a’r Llefaru i flynyddoedd 10 a than 19.