Blog Byw : Sioe Llanbed

Y diweddaraf o faes Sioe Llanbed 2022

gan Ifan Meredith

Ar ddydd Sadwrn cymylog yn Llanbed, cynhelir Sioe Llanbed ar gaeau Pontfaen. Dilynwch ac ychwanegwch at y blog byw yma am y diweddaraf o’r cae.

18:10

Cystadlu ‘It’s a Knockout’ ar fîn dechrau ar Brif Gylch Sioe Llanbed gyda 5 tîm yn cystadlu. 

18:05

Defaid Mynydd Duon, Cwpan D A G Jones – M & D Evans, Y Fenni.

Unrhyw Frîd Mynydd arall, Cwpan y diweddar Hefin a Margaret Evans – Gethin Lloyd, Horeb.

Defaid Mynydd Cymreig, Cwpan Mr D Jones, Dai’s Diner – T R Davies, Clunderwen.

Wedi cael y fraint o gyflwyno cwpanau heddiw ar ran Gwen Jones y Llywydd.  Safon rhyfeddol.  Llongyfarchiadau i bawb.

17:56

Dewch draw i’r It’s a Knock Out.

17:48

Y stiwardiaid yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth ‘It’s a Knockout’ i ddechrau am 6 yr hwyr. 

16:37

Y barnu yn parhau yng nghylch y ceffylau.

16:34

Swyddogion y sioe yn cyflwyno £2,000 i Feiciau Gwaed Cymru.

15:38

Pencampwyr y grŵp o dri yn adran y defaid.

15:19

‘Ma rhywbeth at ddant pawb ar faes Sioe Llanbed. 

14:56

Llongyfarchiadau teulu Williams, Clyncoch – enillwyr prif bencampwriaeth y gwartheg.

14:49

Beirniadu pencampwriaeth ‘young handlers’ y defaid.