Cangen YesCymru yn cwrdd yn Llambed

Bu YesLlambed yn cwrdd yn y Clwb Rygbi neithiwr (Nos Fawrth). 

gan Dinah Jones

Daeth aelodau YesLlambed o’r dre a thu hwnt i glywed Dinah Mulholland yn son am agweddau ar annibyniaeth oddi fewn i’r Blaid Lafur yng Nghymru. Roedd gan y criw yno nifer o gwestiynau yn dilyn yr anerchiad ddifyr gan Dinah a chafwyd trafodaeth fywiog.

Be’ nesa’?

Bydd y cyfarfod nesaf nos Fawrth, y 15ed o Fawrth am 6.30 yn y Clwb Rygbi – manylion i’w cadarnhau. Cyn hynny, bydd aelodau’n cymryd rhan ym Mharêd Gwyl Ddewi Llambed ddydd Sadwrn, Mawrth y 5ed.

Mae’n dal yn ddyddiau cynnar i’r grŵp yn Llambed. Mae’r criw yn un hwyliog sy’n frwd i estyn croeso cynnes i unrhywun sydd â diddordeb yn nyfodol Cymru ac sydd am wybod rhagor am sut fath o wlad allai Cymru annibynnol fod.

Beth yw YesCymru?

Mae YesCymru yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei rhedeg.

Os hoffech wybod rhagor, dyma fanylion cyswllt y grŵp:

Ebost: llambed@yes.cymru

Trydar: @YesLlambed

Facebook: https://www.facebook.com/Yes-Llambed-251835386741959