Clinig brechu COVID-19 dros dro yn Llanbed ddydd Mercher

Croeso i fyfyrwyr, staff y campws ac aelodau’r cyhoedd 16 oed a throsodd fynychu.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun: @RhiannonTanlan

Bydd clinig brechu COVID-19 dros dro yn cael ei gynnal yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yfory ar ddydd Mercher Mawrth 9fed rhwng 10am a 5pm.

Mae croeso i fyfyrwyr, staff y campws ac aelodau’r cyhoedd 16 oed a throsodd fynychu, nid oes angen apwyntiad, ar gyfer y brechiad cyntaf, ail frechiad neu ddos atgyfnerthu COVID-19. Bydd y brechlyn Pfizer ar gael yn y clinig dros dro.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae brechlynnau’n cynnig lefel dda o amddiffyniad ac mae’n werth ei gael os ydych chi wedi cael COVID yn barod. Mae hyn oherwydd y gall lefel yr amddiffyniad y mae pobl yn ei gael rhag cael y firws amrywio yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, yr amser ers eu haint, a’u hoedran. Ond rydyn ni’n gwybod bod amddiffyniad rhag brechu yn dda, yn enwedig y dos atgyfnerthu.

Esboniodd Bethan “Mae pobl heb eu brechu yn fwy tebygol o fod angen gofal critigol mewn ysbytai ar gyfer COVID gan gynnwys yr amrywiad Omicron, ac mae eu canlyniadau fel arfer yn waeth na’r rhai sy’n cael eu brechu.

Ychwanegodd Bethan “Gall ein tîm brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a’ch cefnogi i gael eich brechu. Trwy dderbyn eich brechlyn, byddwch yn parhau i chwarae eich rhan fach ond hynod bwysig wrth amddiffyn eich hun, y rhai mwyaf agored i niwed a’n GIG lleol.”

I gael gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi am y brechlyn COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru phw.nhs.wales/covidvaccine neu i gael rhagor o wybodaeth leol am gael mynediad at eich brechlyn ewch i wefan BIP Hywel Dda biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19