Glaniodd Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru ar gaeau Pontfaen ychydig cyn 14:00 ar y 7fed o Orffennaf a bu torf yn aros amdano ar hyd y Stryd Fawr, Sgwâr Harford a Stryd y Coleg.
Balchder oedd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbed groesawu Tywysog Cymru i gyflwyno graddau er anrhydedd mewn seremoni a gynhaliwyd ar gampws Llambed ddydd Iau, y 7fed o Orffennaf.
Wrth ymweld â’r Brifysgol, cyflwynodd y Tywysog raddau er anrhydedd i bedwar unigolyn am eu cyfraniad eithriadol i’w meysydd arbenigol. Dyfarnwyd doethuriaethau er anrhydedd i:
• Emma Jane Bolam i gydnabod ei chyfraniad sylweddol at arloesi meddygol a chynhyrchu’r brechlyn AstraZeneca;
• Yr Arglwydd Griffiths o Borth Tywyn i gydnabod cyflawniad oes o wasanaeth cyhoeddus ac o fod yn eiriolwr dros gynhwysiant cymdeithasol a diwygio;
• Ned Thomas i gydnabod ei wasanaeth rhagorol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant a chyfoethogi statws a datblygiad ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop;
• Patrick Holden, CBE, i gydnabod ei arweinyddiaeth arloesol ym maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy a ffermio organig.
Wrth groesawu Ei Uchelder Brenhinol i’r Brifysgol, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor:
“Roedd yn anrhydedd i ni groesawu Ei Uchelder Brenhinol i gampws Llambed i nodi daucanmlwyddiant y Brifysgol ac i ddyfarnu graddau er anrhydedd i bedwar unigolyn sydd wedi dangos rhagoriaeth ac arweinyddiaeth drawsnewidiol yn eu meysydd. Mae Ei Uchelder Brenhinol wedi bod yn gefnogwr brwd o’r Brifysgol fel Canghellor a Noddwr Brenhinol sydd hefyd wedi dangos arweiniad trawsnewidiol ei hun trwy ei eiriolaeth dros gytgord amgylcheddol a chymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar iddo am ei nawdd parhaus”.
Bu yna berfformiad gan fyfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru y Brifysgol a wnaeth berfformio detholiad o Gorau Awen Gwirionedd, a gyfansoddwyd gan Eilir Owen Griffiths gyda geiriau gan Dr Grahame Davies. Comisiynwyd y gwaith gan yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor, i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol, sy’n nodi sefydlu Coleg Dewi Sant ym 1822. Cyflwynwyd cyfrol arbennig o’r gwaith, ag argraffwyd ar bapur o 1954 ac a wnaed â llaw gan Wasg Gregynog, i Dywysog Cymru gan yr Is-ganghellor.
Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Tywysog Cymru ag athrawon ysgolion lleol, Caryl Davies a Heini Thomas, Ysgol y Dderi, Jan Jones, Ysgol Llanilar, Heulyn Roderick, Ysgol Bro Pedr ac Anwen Griffiths, Ysgol Gynradd Aberteifi, sydd wedi bod yn cyflwyno prosiect Harmoni sy’n rhoi natur a chynaliadwyedd wrth galon y dysgu ac a ddyfeisiwyd gan Richard Dunn ac a gyfieithwyd i’r Gymraeg fel rhan o fenter Canolfan Tir Glas y Brifysgol.
Cyfarfu hefyd â Cenio Elwin Lewis, Uchel Gomisiynydd St Vincent a’r Grenadines a myfyrwyr o ynysoedd y Gymanwlad sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol. Yn ogystal, cyfarfu â Mr Mark Sawyer, aelod o staff a chrefftwr treftadaeth a wnaeth ddau blac i’w dadorchuddio gan y Tywysog Charles yn ystod ei ymweliad. Roedd y cyntaf i nodi adnewyddu cwadrangl y Brifysgol trwy haelioni’r Hybarch Feistr Chin Kung, a’r ail i goffáu daucanmlwyddiant y Brifysgol.