Ddoe bu farw’r Parchedig Cen Llwyd yn 70 oed wedi cyfnod o salwch. Cydymdeimlwn ag Enfys, Gwenllian ac Heledd, y teulu a phawb o’i gydnabod.
Mae marwolaeth Cen yn golled enfawr i ardal eang ac i Gymru gyfan. Roedd yn weinidog poblogaidd, yn genedlaetholwr gweithredol, yn llenor a darlledwr diddorol.
I ni yn yr ardal hon bu yn weinidog gyda’r Undodiaid ar gapeli Cribyn, Ciliau Aeron, Rhydygwin, Capel y Groes, Caeronnen Cellan ac Alltyblaca ac yn gymwynaswr oedd yn dod â chysur i gymaint o unigolion a theuluoedd mewn galar wrth wasanaethu mewn angladdau.
Bu’n cyfrannu i fyfyrdodau Radio Cymru am chwarter canrif ac yn 2018 cyhoeddodd lyfr a oedd yn gasgliad ohonynt o dan y teitl Munud i Feddwl. Ar wefan Golwg360 ar y pryd, dywedodd Cen,
“Mae yna brofiadau dwys wedi bod, fel colli plentyn a chyfnodau o fynd i’r carchar. Mae’r rheiny i gyd wedi creu cymeriad neu greu rhywbeth ynddo fi a dw i’n credu ei bod hi’n bwysig cael cyfle i rannu rhai o’r profiadau hynny.”
Mewn gwasanaeth fideo ar achlysur ei ymddeoliad fel gweinidog pwysleisiodd Dylan Iorwerth y cariad oedd gan Cen at wlad, iaith a diwylliant.
Dywedodd Dylan Iorwerth “Diolch am wên ac addfwynder, diolch am gyfaill a chlust i wrando, diolch am fod yn barod ei gymwynas a bod yn barod iawn i estyn llaw, diolch am negeseuon a diolch am wasanaethau.”
Yn yr un gwasanaeth fideo, cyfaddefodd Angharad Tomos fod Cen yn angor iddi mewn bywyd. Dywedodd fod “Cen wedi gweithio’n ddiflino i Gymru, i gymuned ac i grefydd.”
Hyd yn oed wedi ei ymddeoliad, roedd Cen yn dal i gynnal gwasanaethau ac yn cymryd rhan mewn angladdau.
Cen Llwyd oedd cadeirydd cyntaf Papur Bro Clonc, ac ar achlysur pen-blwydd y papur yn 40 oed eleni danfonodd Cen ei gyfarchion, canmoliaeth ac anogaeth.
“Nid yw fy iechyd yn caniatáu i mi ddod i’r digwyddiad a gwell fyddai i mi sefyll adref.
Byddem wrth fy modd yn hel atgofion am y cyfarfodydd a gynhaliwyd i sefydlu’r papur ac am y broses go-gyfer a mynd ag ef i’r wasg i gael ei argraffu. Wrthgwrs mae’r broses honno wedi newid yn ddirfawr erbyn hyn a llogyfarchiadau MAWR i Clonc am y datblygiadau cyffrous sydd wedi digwydd iddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma.
Mae iddo rôl pwysig iawn yng ngwead cymdeithasol y gymdogaeth a’r ardal. Diolch i rheiny sydd yn gwneud y gwaith gwirfoddol o’i drefnu a’i baratoi. Byddem wedi bod wrth fy modd hefyd yn cael fy nifyru gan Dafydd a Gary.”
Cofiwn amdano yn annwyl iawn, a diolchwn yn gynnes am ei gyfraniad i ardal eang ac am gyffwrdd a bywydau cymaint o bobl.