Ar nos Fercher, Ionawr 26ain, cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y côr yn Festri Brondeifi gyda 22 yn bresennol. Gan fod ein Llywydd, Mr Alun Williams yn absennol, cymerodd Haydn Richards, cyn-gadeirydd y côr yr awennau.
Ar y dydd Sul canlynol, roedd ein harweinydd, Mrs Elonwy Davies yn dathlu pen-blwydd arbennig yng Ngwesty’r Glynhebog a daeth y côr ynghyd i ganu iddi – gan roi tipyn o sypreis!
Roedd pawb yn awyddus i ail ddechrau canu ac ar nos Fercher 2il Chwefror roedd y côr yn canu unwaith eto yn Festri Brondeifi ac yn paratoi am nifer o ddigwyddiadau cyffrous, gan gynnwys
- Gorymdaith Gŵyl Dewi Llambed ar 5ed Mawrth
- Cyngerdd Dathlu Jiwbili Frenhiness Elizabeth 2il yn Aeron Coast, Aberaeron
Mae croeso mawr i aelodau Newydd – mae 2 wedi ymuno â ni eisoes. Rydym yn cwrdd pob nos Fercher am 8yh yn Festri Brondeifi
Cewch y diweddaraf ar ein gwefan www.corcwmann.cymru neu ar ein ffrwd Trydar @CorCwmann
Rhestr swyddogion y Côr yn llawn
- Arweinydd Mrs Elonwy Davies
- Cyfeilydd Mrs Elonwy Pugh Huysmans
- Llywydd Alun Lloyd Williams
- Cadeirydd Kees Huysmans
- Is-gadeirydd Geraint Davies
- Ysgrifennydd Alun Jones
- Is-ysgrifennydd Danny Davies
- Trysorydd Meirion John
- Ysgrifennydd Aelodaeth Emlyn Davies
- Ysgrifennydd Cofnodion Meirion John
- Llyfrgellydd Keri Davies
- Gohebydd y Wasg Danville Griffiths
- Gohebydd y Cyfryngau Rob Phillips
- Cyflwynwyr Cyril Davies, Geraint Davies a Rob Phillips
- Trefnydd Danny Davies
- Rheolwyr Llwyfan Eifion, Emyr a Rob Phillips
- Swyddog Archfau Emyr Jenkins