Cyfle arall i weld sioeau’r Smotyn Du a Jacob

Perfformiadau nos Wener i godi arian at motor neuron

gan Dylan Iorwerth

Mae cyfle arall i weld dwy o sioeau poblogaidd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Theatr Felin-fach nos Wener, wrth i Undodiaid y Smotyn Du a Bois y Gilfach ddod at ei gilydd i gynnal noson.

Y sioe gynta’ fydd Cerddwn Ymlaen, sy’n dweud stori’r Smotyn Du trwy eiriau a chân, gyda Iolo Morganwg yn cyflwyno’r cyfan.

Wedyn bydd Bois y Gilfach yn cyflwyno Cofio Jacob, eu teyrnged i Jacob Dafis, Alltyblaca, un o enwogion y Smotyn.

Fe fydd yr elw o’r noson yn mynd at apêl y Clefyd Motor Neuron, yn deyrnged i’r Parch Cen Llwyd a fu farw ynghynt eleni.

Roedd yn weindiog ar chwe chapel Undodiaid Aeron Teifi, yn ffrind ac arbenigwr ar hanes Jacob Dafis ac wedi helpu Bois y Gilfach gyda’r sioe.

Cerddwn Ymlaen, Theatr Felin-fach, nos Wener, 25 Tachwedd am 7.30pm. Tocynnau yn £10 – ffoniwch y Theatr – 01570 470697.