‘Cyngerdd Cyn Cystadlu’ yn codi arian i Fanc Bwyd Llanbed

Cyflwyno siec sylweddol i Fanc Bwyd Llanbed.

gan Ifan Meredith

Ydych chi’n cofio’r cyfnod cyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion? Wythnos cyn iddi ddechrau gyda Lloergan, cafwyd noson hwylus iawn yn Ysgol Bro Pedr wrth gynnal ‘Cyngerdd Cyn Cystadlu.’

Roedd mynediad i’r noson am ddim ond derbyniwyd rhoddion a chodwyd £850.00 i fanc bwyd Llanbed.  Cyflwynwyd y siec i Sandra Jones o’r banc bwyd gan Sara Davies, Rhiannon Lewis, Elonwy a Kees Huysmans, Elin Williams a Lois Williams.

Cymerodd sawl grŵp ac unigolyn rhan yn y noson, gan gynnwys Côr Pam Lai, Côr Bytholwyrdd a Chôr Llefaru Sarn Helen. Mae diweddariadau o’r noson i’w gweld yn llawn yma a fideo dwy ran o’r noson ar gael islaw. 

Rhan 1

Rhan 2

Mae’n braf cyhoeddi bod Côr Pam Lai a Chôr Bytholwyrdd yn bwriadu parhau ac yn croesawi aelodau newydd. Beth am gysylltu am fwy o fanylion?