Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol amserlen gwasanaeth bysiau ychwanegol i gludo pobl o Lanbed i Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ac yn ôl yn ystod yr wythnos fawr.
Pwysleisia’r Eisteddfod mai gwasanaeth masnachol sy’n cael eu trefnu gan gwmni bysiau annibynnol yw hwn ac nad yw’r Eisteddfod yn gyfrifol amdano.
Rhaid archebu tocynnau cyn teithio. Nid yw’r bysiau ychwanegol hyn yn rhai lefel isel, ac felly nid ydyn nhw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Bydd y bysiau ychwanegol gan gwmni Lewis Rhydlewis yn rhedeg o Ddydd Sadwrn 30ain Gorffennaf i Ddydd Sadwrn 6ed Awst ac yn gadael Prifysgol y Drindod Dewi Sant Llanbed ar yr amserau canlynol: 9.00, 11.00, 15.00, 17.00, 10.00 a 22.00. Cost y daith i Dregaron fydd £8.00 yr un.
Bydd bysiau yn dychwelyd i Lanbed hefyd ar yr un diwrnodau ac ar yr amserau canlynol bob dydd: 10.00, 12.00, 16.00, 18.00, 21.00 a 23.00 ac yn costio £6.00 yr un.
Trefnir teithiau tebyg o Aberystwyth ac o Aberaeron a dylid archebu tocynnau bysiau o flaen llaw o wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.