Cynllun Aldi: ‘Mi fydd y weledigaeth newydd yn llwyddo’

Ymateb ffyddiog i gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Llanbed mewn Cyfarfod Cyhoeddus neithiwr.

gan Ifan Meredith
IMG_6352

Daeth llawer o bobl i Ganolfan Creuddyn i glywed gan y cynrychiolwyr am y datblygiadau.

‘Mi fydd y weledigaeth newydd yn llwyddo’  Dyma eiriau un o gynrychiolwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng nghyfarfod cyhoeddus Cyngor Tref Llanbed a gynhaliwyd ar nos Fawrth, y 29ain o Fawrth yng Nghanolfan Creuddyn. Bu cynrychiolaeth hefyd o archfarchnad Aldi yn y cyfarfod er mwyn trafod y datblygiadau diweddaraf.

Yn ystod y cyfarfod, gwelwyd gyflwyniad gan Emyr Jones, pennaeth gweithredol datblygiad eiddo ac ystâd y Brifysgol, Gwilym Dyfri Jones, Profost y Brifysgol, Rob Jones, cyfarwyddwr eiddo Aldi a Phil Marsden o gwmni ‘Planning Potential’.

Yn ystod y cyflwyniad yma, daeth i’r amlwg mai prosiect ar y cyd yw’r datblygiad rhwng Prifysgol y Drindod Dewi Sant ac Aldi. Prif ffocws y datblygiad yw i hyrwyddo cynnyrch bwyd lleol a hybu bwydydd cynaliadwy.

Yn ôl y cynlluniau, mi fydd yna arian ar gael i adfywio’r pafiliwn rhestredig yn llawn, i wella cyfleusterau chwaraeon yr ardal, i gyflwyno datblygiad economaidd ac i wneud gweithgareddau ymchwilio.

Yn ôl Aldi a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, byddai’r datblygiad yn cynnig cyfleoedd i sefydlu hwb ardal ar gyfer chwaraeon, hamdden, masnachol, academig a gweithgareddau cymunedol o fewn y dref.

Mae canolfan Tir Glas yn gynllun uchelgeisiol i gyflwyno cyfeiriad newydd i Lanbed a’r cyffiniau. Mae gan y cynllun chwe o gydrannau sy’n cynnwys Pentref Bwyd Pontfaen, Hwb Bwyd Cymunedol, Academi Cyfoed Bwyd Cymru a Hwb Menter Gwledig. Bwriad y cynllun yw i ddarparu datblygiad cyflym i Gampws Llanbed yn nhermau academaidd a’i ymroddiad i’r gymuned.

Mae Aldi yn gwmni archfarchnad sydd â 950 o siopau ledled y Deyrnas Unedig. Mi fydd gan y siop penodol yma ddyluniad modern a fydd yn plethu â’r amgylchfyd. Defnyddir deunyddiau naturiol i adeiladu’r siop gyda cladin pren a charreg yn cael eu henwi yn benodol. Mi fydd yna 3 i 5 uned ‘pod’ er mwyn arddangos cynnyrch bwyd lleol. Yn ogystal, bydd yna 118 o lefydd i barcio am ddim gyda llefydd ar wahân ar gyfer y Pentref Bwyd a’r pafiliwn.

Bydd Aldi yn creu 40 swydd llawn amser a rhan amser. Bu Aldi hefyd yn amlinellu’r cryfderau i’r ardal sydd yn cynnwys gwell dewis siopa i Lanbed a’r cyffiniau ac y byddai mewn lleoliad cynaliadwy gyda chysylltiadau cerdded a seiclo gwych.

Efallai y byddwch wedi gweld taflenni gwybodaeth am y cynlluniau yn dod trwy eich drysau cyn y Nadolig sef yr ymgynghoriad cyn ymgeisio am ganiatád cynllunio, a dysgom fod 367 wedi ymateb gyda 87.5% o’r nifer yma yn cefnogi’r cynlluniau, 6.3% yn ansicr ac yna 6.3% yn erbyn.

Yn ôl yr ymatebion, gwelir mai’r prif resymau dros gefnogi’r cynlluniau oedd y byddai’n ‘wych i gael Aldi cyfagos’, ei fod yn ‘syniad da yn gyffredinol’ ac y byddai’n ‘dda i Lanbed ac i fusnesau lleol’. Fodd bynnag, y prif resymau dros wrthwynebu’r cynlluniau oedd ‘nad oes angen archfarchnad arall’ a mai nid dyma’r ‘safle cywir ar gyfer yr awgrymiad’.  Mewn ymateb i’r ymatebion yma, medd Aldi eu bod yn cynnig ‘masnach gwahanol’ i’r archfarchnadoedd sydd yn y dref eisoes.

Pan holwyd cwestiwn gan y gynulleidfa ynglŷn â’r dystiolaeth i gefnogi trydydd archfarchnad i Lanbed, dywedodd y cwmni ‘Planning Potential’ bod holiadur aelwyd wedi dangos bod llawer o drigolion Llanbed yn mynd i siopa yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth ac Aberteifi sydd o leiaf 45 munud i ffwrdd. Byddai’r datblygiad hefyd yn gwella hygyrchedd i bobl lleol Llanbed a’r cyffiniau. Cydnabyddwyd hefyd gan Aldi y byddai effaith bach ar siop Caerfyrddin. Mae Aldi hefyd wedi cadarnhau mai nhw bydd archfarchnad rhataf y Deyrnas Unedig wrth i brisiau barhau i godi.

Mae’r panel wedi cysylltu â chyrff allanol i’r Cyngor er mwyn derbyn ymatebion ac yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes gwrthwynebiad ond mi fydd angen arolwg ystlumod. Ar ôl ymgynghori â’r Adran Briffyrdd dywedwyd nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad ond awgrymwyd telerau technegol safonol. Maent yn disgwyl ymateb gan bolisi masnachu, treftadaeth ac ecolegol.

Rhagdybia ‘Planning Potential’ y byddai’n debygol y bydd ymateb i’r cais cynllunio ganddynt yn hwyrach yr haf hwn ac y byddai gwaith adeiladu yn debygol o ddechrau tuag at ddiwedd 2022 ac y byddai’r siop yn agor yn haf 2023.

Beth yw cynlluniau’r Brifysgol tuag at y dyfodol felly? Cynlluniau’r Brifysgol yw i agor canolfan fwyd yng nghanol y dref a bod yna adeilad ganddyn nhw mewn golwg. Maent hefyd yn chwilio am fuddsoddiad pellach i ariannu canolfan hanes bwyd Cymru a byddai’n lle i’r gymuned.

Maent hefyd am agor ‘Foodquest’ yn y dref a byddai yn atyniad twristiaeth ac academaidd i’r dref yn yr un modd â ‘Techniquest’ ym Mae Caerdydd. Maent hefyd wedi amlinellu na fydd yna ddatblygiad pellach i’r cae.

Yn gynllun ‘cadarnhaol ar y cyfan’.

Mae gan y Brifysgol weledigaeth i wneud ‘Campws mwy bywiog’ yn Llanbed. Mae’r brifysgol yn rhagweld byddai’r cynllun yma yn gwella cyfleusterau chwaraeon ac felly yn gallu cyfuno maeth a chwaraeon yn yr ardal. Yn ôl y Brifysgol, y rheswm pennaf am ddewis Aldi fel yr archfarchnad i ddod yn rhan o’i chynllun yw eu bod wedi darparu syniadau i ymuno’r brifysgol â’r dref a’r gymuned gyfagos. Mae tair fferm yn yr ardal hefyd mewn trafodaethau gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant i ddatblygu ystafelloedd dosbarth ar eu ffermydd i ddysgu am amaeth i blant yr ardal. O ran Aldi, byddant yn cydweithio gyda’r ysgolion lleol drwy eu rheolwr ardal leol er mwyn sbarduno cynlluniau prentisiaeth sydd ar gael gan y cwmni sy’n darparu cymhwyster NVQ yn masnachu.

Yn unol â’r cynllun hwn, mae cynlluniau amrywiol ar waith yn y dref sydd wedi cael eu hariannu a’u disgrifio fel ‘buddsoddiad sylweddol.’