Hwb Cynnes Llanybydder

Lle i gymdeithasu a chadw’n gynnes.

Angharad Lewis
gan Angharad Lewis

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Hwb Cynnes yn agor ddydd Iau, 15fed o Ragfyr, rhwng 2yp-6yh, lle byddwn yn darparu sŵp, rholyn, caws, te a choffi am ddim.

Gyda’r pwysau ariannol a wynebir gan ein cymuned, ein nod yw darparu amgylchedd cynnes a diogel i bawb ei fwynhau.

Dewch draw i fwynhau lle diogel i gadw’n gynnes a chymdeithasu dros ddiod boeth.

Fe fydd y gwasanaeth yma ar gael bob dydd Iau tan yr 2ail o Fawrth, yn yr adeilad drws nesaf i’r clwb rygbi yn Llanybydder.

Gwerthfawrogwn y cymorth gan Gyngor Sir Gâr ar gyfer y prosiect hwn.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Andrew ac Angharad