Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at gynnal darlith arbennig a fydd yn olrhain hanes un o ffigurau mwyaf arwyddocaol y Brifysgol i gydfynd â dathliadau’r daucanmlwyddiant.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddarlithoedd ‘Trysorau Llambed,’ sy’n cael ei drefnu gan adran y casgliadau arbennig o’r Llyfrgell.
Yn ystod y ddarlith hon bydd yr Esgob Wyn Evans, yn olrhain hanes Llewelyn Lewellin, Prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant yn Llambed. Lewellin fu’n gyfrifol am arwain y Coleg am dros hanner can mlynedd, a bu farw tra oedd yn y swydd yn 1878.
Yn ogystal ag edrych ar fywyd academaidd Lewellin, bydd y ddarlith yn rhoi sylw hefyd i’w gyfraniad i dref Llambed a’r ardal gyfagos. Ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau yn y coleg, roedd Llywelyn Lewellin yn ficer Llambed, yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yn Ustus Heddwch ar gyfer Sir Aberteifi, Sir Gaerfyddin a Sir Benfro.
Wrth edrych ymlaen at y ddarlith, dywedodd yr Esgob Wyn Evans:
“Mae’n fraint derbyn y gwahoddiad i draddodi darlith ar Brifathro cynta’r Coleg hwn fel rhan o ddathliadau’r daucanmlwyddiant. Roedd Llewelyn Lewellin yn ffigwr pwysig ac allweddol o fewn hanes y Brifysgol, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu ychydig o’i hanes i’r gynulleidfa yn ystod ddarlith hon. ”
Mynychodd yr Esgob Wyn Evans Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd yn 1965, lle graddiodd mewn Archaeoleg cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd ôl-radd mewn hyfforddiant ar gyfer y Weinidogaeth Sanctaidd yn Ngholeg Mihangel Sant Llandaf.
Fe’i ordeiniwyd ym mis Medi 1971 i wasanaethu fel Ciwrad Plwyf Tyddewi, ac ym 1972 daeth yn Is Ganon ac Is Gantor Eglwys Gadeiriol Tyddewi. O 1975-1977 bu’n dilyn ymchwil i mewn i Hanes ac Archaeoloeg yr Eglwys Gyn-Normannaidd yng Nghymru gan ganolbwyntio ar y Mam-Eglwysi clasaidd.
Daeth yn Ficer Llanfallteg, Castell Dwyran, Clunderwen, Llangan a Henllan Amgoed yn 1977, ac fe’i apwyntiwyd yn Archifydd yr Esgobaeth, ac yn Warden Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Ym 1982 fe’i apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth ac yn Gaplan a Darlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin; lle ddaeth yn Ddeon y Capel a Phennaeth yr Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd maes o law. Ar yr un adeg, bu’n darlithio Archaeoleg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbed. Daeth yn Ganon Mygedol yr Eglwys Gadeiriol yn 1988, ac yn Canon Trigiannol a Chanon Llyfrgellydd yn 1990.
Ym 1994, fe’i apwyntiwyd yn Ddeon Tyddewi a Ficer Plwyf Tyddewi, gan ddod yn Rheithor Plwyf Rheithorol Pebydiog yn 2001. Yn 2008, fe’i etholwyd yn 128ed Esgob Tyddewi.
Ymddeolodd ar ei benblwydd yn ddeg a thrigain ym mis Hydref 2016, ac fe aeth i ail-afael yn ei ddiddordebau archaeolegol gan dreulio o leiaf diwrnod yr wythnos ar Gampws Llambed. Yr oedd eisoes yn Gymrawd Coleg Prifysgol Llanbed ac fe’i anrhydeddwyd fel Dothur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd. Y mae hefyd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Hynafiaethwyr (FSA) ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, (FRHistS).
Dywedodd yr Athro John Morgan – Guy:
“Er ei fod yn brifathro Coleg Dewi Sant am hanner can mlynedd, mae Lewellin yn parhau’n ffigwr di-ddal ac enigmatig, sy’n ddadleuol yn ei oes ei hun. Mae’r Esgob Wyn Evans (a oedd yn un o olynwyr Lewellin fel Deon Tyddewi), yn hanesydd profiadol ac uchel ei barch, wedi ymchwilio’n ddwfn i’w fywyd a’i weithgareddau. Yn y ddarlith hon mi fydd yn rhannu stori ddiddorol y dyn hwn gyda ni, gan ddod â mewnwelediadau ffres i ni ar ei gymeriad a’i ddylanwad o fewn y coleg a thu hwnt.”
Cynhelir y ddarlith hon ar nos Lun, Tachwedd 28ain am 7 yr hwyr yn yr Hen Neuadd, Campws Llambed. Mi fydd y ddarlith yn cael ei thraddodi drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe fydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael i’r rhai sy’n dymuno i’r Saesneg. Os hoffech archebu lle, ebostiwch: specialcollections@uwtsd.ac.uk