Bydd yr Athro John Morgan – Guy yn cyflwyno’r ddarlith athrawol nesaf ‘Lampeter and the Lost Art of Science’ ddydd Mercher, 19 Hydref am 4yp.
Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddarlithoedd misol a fydd yn cael eu cyflwyno gan staff academaidd y Brifysgol sydd wedi derbyn teitlau Athrawol.
Yn ystod y ddarlith hon, bydd yr Athro Morgan – Guy yn archwilio i addysgu gwyddoniaeth yn Llambed, yn unol â thelerau ewyllys Thomas Phillips (m.1851) a sefydlodd Gadair yr Athro Phillips mewn Gwyddoniaeth. Cafwyd dau ddeiliad nodedig o’r gadair, Joseph Matthews a’r hirhoedlog Arthur Scott, cyn i’r gadair gael ei hatal yn y 1920au ac nid yw wedi’i hailgyflwyno ers hynny.
Bydd y ddarlith hefyd yn olrhain y cysylltiad rhwng Llambed a ‘gwyddoniaeth’ fel y’i deellid yng nghyfnod yr Esgob Burgess a John S Harford, a’u cysylltiadau masnachol. Mae hyn oll wedi’i anghofio erbyn hyn i raddau helaeth.
Cyn y ddarlith, dywedodd yr Athro John Morgan – Guy,
“Rwy’n teimlo ei fod yn fraint mawr cyflwyno’r ddarlith hon a chael cadair athro gan y brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen at rannu’r ddarlith hon gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr.”
Yr Athro Morgan-Guy yw hanesydd y Brifysgol ac mae hefyd wedi gweithredu fel ei harchifydd. Mae’n Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol. Mae wedi ymchwilio’n helaeth i hanes campws y Brifysgol yn Llambed, a sefydlwyd ym 1822, ac mae’n aelod allweddol o’r tîm sy’n cyflwyno amrywiaeth o arddangosfeydd am hanes, trysorau ac archifau’r Brifysgol fel rhan o ddathliadau ei Daucanmlwyddiant.
Hefyd, mae’r Athro Morgan-Guy wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn golygu dwy gyfrol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae’r gyfrol gyntaf, a gyhoeddwyd yn ddiweddar dan y teitl Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn archwilio’r cyfoeth o lawysgrifau a llyfrau printiedig cynnar a gedwir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn y Brifysgol. Mae’r ail gyfrol a gaiff ei chyhoeddi flwyddyn nesaf, yn nodi agweddau ar hanes y Brifysgol dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf. Mae Gwireddu Gweledigaeth: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 1822-2022, yn dilyn ei gyfrol flaenorol, A Bold Imagining: University of Wales Lampeter, a olygwyd gyda’r cyn Is-Ganghellor, yr Athro Keith Robbins.
Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerdydd, mae cysylltiad yr Athro Morgan-Guy â’r Brifysgol yn Llambed yn mynd yn ôl dros 60 mlynedd. Mae’n gyn-fyfyriwr a ddechreuodd ar ei astudiaethau israddedig mewn Hanes yng Ngholeg Dewi Sant, fel y’i gelwid ar y pryd, ym mis Hydref 1962. Oddi yno aeth i St Stephens House Rhydychen a chael ei ordeinio yn 1967.
Dychwelodd i Gaerdydd i ddechrau ei weinidogaeth yn gurad cynorthwyol yn Sblot, rôl a gyflawnodd am dair blynedd cyn symud i Sir Fynwy yn offeiriad plwyf tan 1980.
Bu’n offeiriad rhan-amser ac yn ymgynghorydd archifau i Awdurdod Iechyd Gwlad yr Haf am ddeuddeg mlynedd cyn dychwelyd i’r weinidogaeth amser llawn, gan wasanaethu tri phlwyf gwledig o amgylch y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn.
Yn 1984, dechreuodd ar ei ddoethuriaeth ar Eglwys y 18fed Ganrif yn Hen Esgobaeth Llandaf 1660 – 1815 yn fyfyriwr rhan-amser yn Llambed. Dywed ei fod yn credu mai ef oedd y cyntaf i gael gwneud hynny yn fyfyriwr dibreswyl. Ymgymerodd â’i ymchwil dros gyfnod o 14 mlynedd ac roedd yn cynnwys dwy gyfrol o 874 o dudalennau. Cwblhawyd ei draethawd ymchwil ar adeg pan nad oedd unrhyw gyfyngiadau o ran hyd na nifer geiriau wedi’u gosod yn y rheoliadau academaidd. Mae’n un o’r ychydig bobl sydd â Thrwydded Ôl-Ddoethurol mewn Diwinyddiaeth ac mae ganddo hefyd Ddiploma mewn Gweinidogaeth o Brifysgol Rhydychen.
Dychwelodd i Lambed yn ddarlithydd rhan-amser ar Hanes yr Eglwys ac yn archifydd y Brifysgol yn 1997. Bu hefyd yn darlithio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, fel yr oedd ar y pryd.
Daeth yn Gymrawd Ymchwil y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan weithio ochr yn ochr â’r artist a’r hanesydd celf, Peter Lord, ar brosiect ymchwil Prifysgol Cymru ar Ddiwylliant Gweledol Cymru.
Bu’n cydweithio â’r Athro Martin O’Kane yn olygydd y gyfrol, Biblical Art from Wales, a gyhoeddwyd gan Sheffield Phoenix Press ac a dderbyniodd grant Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Barnwyd bod y gyfrol o statws rhyngwladol yng nghyflwyniad y Brifysgol i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014.
Fe’i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol am ei waith ar glefydau heintus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol ac yn Gymrawd y Gymdeithas Hynafiaethau. Bu’n gymrawd gwadd yn y Ganolfan Methodistiaeth a Hanes Eglwysig ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn 2010 a 2020.
Yr Athro Morgan-Guy yw cyd-olygydd y Journal of Religious History, Literature and Culture gyda’i gyd gyn-fyfyriwr o Lambed, yr Athro William Gibson, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.
Mae wedi cyhoeddi’n helaeth – mwy na chant o bapurau mewn cyfnodolion, llyfrau aml-awdur a monograffau, y cyntaf pan oedd yn dal i fod yn yr ysgol yn 1961. Canolbwyntia’r rhain i raddau helaeth ar hanes yr eglwys, y celfyddydau gweledol a hanes meddygol. Mae’n adolygydd rheolaidd ar gyfer sawl cylchgrawn academaidd. Mae ei ddiddordebau penodol ym maes hanes yr Eglwys Anglicanaidd, yn enwedig yng Nghymru, yn y cyfnod wedi’r Diwygiad, yn ei chelf a’i phensaernïaeth; ac yn y maes meddygol ym maes iechyd y cyhoedd a thrin clefydau heintus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu’n aelod o bwyllgor Cymdeithas Hanes Meddygaeth Prydain, a Chynrychiolydd Cenedlaethol Prydain i Gyngor y Gymdeithas Ryngwladol er Hanes Meddygaeth yn y 1980au, ac ar hyn o bryd mae’n un o ymddiriedolwyr Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.
Gwasanaethodd yr Athro Morgan-Guy yn Gaplan dros dro yn y Brifysgol cyn iddo ymddeol yn 71 mlwydd oed ond mae’n cynnal ei gysylltiad â Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol, sy’n gartref i’r Casgliadau Arbennig.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:
“Mae’n bleser gennyf wahodd yr Athro Morgan – Guy i gyflwyno ei ddarlith broffesiynol a’i longyfarch ar dderbyn y teitl. Mae ein cyfres o ddarlithoedd athrawol yn arddangos ehangder ac ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei gynnal yn Y Drindod Dewi Sant. Mae’n rhoi’r cyfle i’n hathrawon rannu eu hymchwil gyda chynulleidfa eang, yn cynnwys aelodau’r cyhoedd, ym mhresenoldeb teulu, ffrindiau gwadd a chydweithwyr.
Cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 19 Hydref am 4pm, yn Llyfrgell y Sylfaenwyr ar Gampws Llambed, ac ar-lein drwy Microsoft Teams.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim ond gofynnir i westeion gadw lle ymlaen llaw drwy anfon e-bost i: Digwyddiadau-Events@uwtsd.ac.uk
Byddwch hefyd yn gallu ymuno ar-lein drwy Microsoft Teams.