Darlith Athrawol yn archwilio sut mae testunau hynafol o’r Testament Newydd yn trafod y berthynas rhwng deall y presennol a chofio’r gorffennol.

Bydd yr Athro Catrin Williams yn traddodi’r ddarlith athro nesaf ‘The Remembered Past and Remembering Present: The Role of Memory in Recent Approaches to The Study of the New Testament’ ddydd Mercher, 16 Chwefror am 4pm.

gan Lowri Thomas

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddarlithoedd misol i’w cyflwyno gan staff academaidd y Brifysgol sydd wedi derbyn teitlau Athrawol.

Mae’r dathliadau deucanmlwyddiant eleni yn cynnig llawer o gyfleoedd i’r Brifysgol goffáu digwyddiadau a ffigurau sy’n gysylltiedig â’i gorffennol. Yn ei darlith, bydd yr Athro Williams yn ystyried yr arwyddocâd sydd ynghlwm wrth ‘gof’ mewn ymchwil ddiweddar ar y Testament Newydd, yn enwedig Efengyl Ioan, er mwyn archwilio sut mae’r testunau hynafol hyn yn trafod y berthynas rhwng deall y presennol a chofio’r gorffennol.

Mae’r Athro Williams yn edrych ymlaen at y digwyddiad. Meddai: “Rwy’n falch dros ben o gael fy ngwahodd i roi darlith athro yn y Brifysgol yn ystod blwyddyn ei dathliadau deucanmlwyddiant ac i allu cyflwyno rhywfaint o’m hymchwil ar sut mae atgofion o’r gorffennol yn gweithio mewn rhai o destunau’r Testament Newydd. Ymddangosodd yr ysgrifeniadau hyn ar adegau arwyddocaol o bontio yn ogystal â newid yn y ganrif gyntaf OG, pan oedd credinwyr Crist yn teimlo bod rhaid iddynt fynnu eu hunaniaeth yn erbyn cefndir pŵer ymerodrol Rhufeinig ac mewn perthynas ag Iddewiaeth, rhiant grefydd y mudiad Cristnogol cynnar. Felly, mae nifer o’m cyhoeddiadau diweddaraf wedi archwilio sut y ceisiodd awduron y Testament Newydd, yn enwedig awdur Efengyl Ioan, fynegi eu credoau a’u profiadau yn y presennol drwy fyfyrio ar eu treftadaeth Iddewig a’u gorffennol crefyddol.

“Er bod fy ymchwil wedi’i gwreiddio’n gadarn mewn ymchwilio i hanes, diwylliant ac ieithoedd y ganrif gyntaf, mae gan destunau Iddewig a Christnogol cynnar o’r cyfnod hwnnw lawer i’w gyfrannu i drafodaethau ynghylch materion yn ein cyfnod ein hunain. Mae’n bosibl i Efengyl Ioan, er enghraifft, fod yn destun dylanwadol yn hanes meddwl ac ysbrydolrwydd Cristnogol, ond mae ei gyfeiriadau amwys – negyddol yn aml – at Iddewon yn y naratif wedi golygu ei fod hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad gwrth-Iddewiaeth ac yn y cynnydd mewn gwrth-semitiaeth. Mae gwaddol anodd, poenus yn aml, testunau crefyddol o’r fath yn mynnu y dylai dehonglwyr ganolbwyntio nid yn unig ar eu derbyniad diweddarach ond hefyd ar eu dechreuadau, pan geisiodd cymunedau crefyddol benderfynu a sefydlu eu hunaniaeth eu hunain mewn ffyrdd a oedd yn aml yn golygu torri i ffwrdd oddi wrth eraill.

“Rwy’n ffodus o gael cyfleoedd i drafod cwestiynau o’r fath gyda chydweithwyr yn y Dyniaethau yn Llanbedr Pont Steffan a hefyd gyda’m myfyrwyr ymchwil sydd, fel fi, yn ymddiddori mewn olrhain tarddiad ysgrifeniadau Cristnogol cynnar ond hefyd mewn ymchwilio i fywyd diweddarach y testunau hynny.”

Mae Catrin Williams yn Athro Astudiaethau’r Testament Newydd yng Nghanolfan y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (campws Llambed). Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw Efengyl Ioan a thestunau Ioannaidd eraill, gan gynnwys eu perthynas ag Iddewiaeth hynafol. Mae’n ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil cydweithredol ar Efengyl Ioan ac mae hefyd yn gwasanaethu ar fyrddau golygyddol nifer o gylchgronau rhyngwladol a chyfresi monograff academaidd. Mae’n aelod o’r Colloquium Ioanneum ac mae ganddi gymrodoriaeth ymchwil yn y Testament Newydd ym Mhrifysgol y Wladwriaeth rydd yn Bloemfontein, De Affrica. Yn 2017 fe’i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru y mae’n gwasanaethu’n gynrychiolydd Y Drindod Dewi Sant ar ei chyfer.

Cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 16 Chwefror, yn yr Hen Neuadd ar gampws Llambed ac ar-lein drwy Microsoft Teams.