Dathliad rygbi i goffáu’r Daucanmlwyddiant yn Llambed

Ail greu gêm rygbi gyntaf i’w chwarae yng Nghymru rhwng Coleg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri

gan Lowri Thomas

Bydd Cymdeithas Llambed a chyn-fyfyrwyr o gampws Llambed yn nodi daucanmlwyddiant gosod carreg sylfaen Coleg Dewi Sant, Llambed yn 1822 drwy ddathlu cyfraniad hanesyddol y coleg i rygbi yng Nghymru yn ystod penwythnos rygbi’r cyn-fyfyrwyr, yr ‘Old Codgers’.

Derbynnir yn gyffredinol y cyflwynwyd rygbi i Gymru gan y Parchedig Athro Rowland Williams, a oedd wedi chwarae Rygbi yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt ac a ddaeth yn Is-brifathro Coleg Dewi Sant yn 1850.

Bydd y dathliadau rygbi yn ail-greu’r gêm rygbi gystadleuol gyntaf erioed i’w chwarae yng Nghymru rhwng Coleg Dewi Sant Llambed a Choleg Llanymddyfri yng Nghaio yn 1866. Penderfynwyd yn wreiddiol i chwarae’r gêm yn y pentref gwledig hwn yn Nyffryn Cothi am ei fod hanner ffordd rhwng trefi Llanymddyfri a Llambed.

Mae’r trefnydd Ieuan Davies, cyn-fyfyriwr o Goleg Dewi Sant Llambed, yn edrych ymlaen at y digwyddiad hwn.

“Mae ‘Old Codgers’ Llambed yn edrych ymlaen at eu penwythnos rygbi blynyddol, ond mae’r gêm hon yn un arbennig iawn gan ein bod yn cael yr anrhydedd o gychwyn penwythnos hanesyddol o rygbi drwy chwarae yn erbyn ‘Old Boys’ Coleg Dewi Sant Llambed, tîm o gyn-fyfyrwyr sydd gan fwyaf yn eu 30au canol i hwyr.

“Mae sawl cyfeillgarwch wedi’i ailgynnau a llawer mwy wedi’u creu o ganlyniad i benwythnosau’r ‘Old Codgers’. Yn ogystal codwyd miloedd o bunnau i amrywiol elusennau drwy gynnal arwerthiant o eitemau yn gysylltiedig a’r coleg a rygbi ar ôl pob gêm.

“Fel cymdeithas, rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni yn y dathliadau yng Nghaio ac yn Llambed i ddathlu’r gêm rhwng y ddau dîm a roddodd gychwyn ar rygbi yng Nghymru nôl yn 1866.”

Bydd y dathliadau’n cychwyn ddydd Gwener 2 Rhagfyr am 2pm, pryd y cynhelir digwyddiad hyfforddi ar y maes gwreiddiol lle cynhaliwyd y gêm gyntaf rhwng y ddau goleg nôl yn 1866 yn Glanrannell yng Nghaio, drwy ganiatâd caredig y perchennog, Mr Dave Chaplin.

Bwriedir i’r digwyddiad fod yn gyfle hefyd i bobl Caio ddathlu cyfraniad eu pentref i rygbi Cymru. Mae gwesteion a’r cyfryngau  hefyd wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol. I nodi’r achlysur arbennig hwn, bydd chwaraewyr a phentrefwyr yn gwisgo dillad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nos Wener, cynhelir cinio yn Neuadd Fwyta Lloyd Thomas ar Gampws Llambed i westeion, a Selwyn Walters, hanesydd rygbi Llambed fydd y siaradwr gwadd. Gan edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd:

“Mae’n bleser mawr cael y cyfle unwaith eto i ddathlu’r ffaith mai Coleg Dewi Sant, Llambed oedd man geni Rygbi yng Nghymru. Mae hefyd yn briodol iawn bod y dathliadau hyn yn canolbwyntio ar y gêm a chwaraewyd rhwng Coleg Llambed a Choleg Llanymddyfri yng Nghaio yn 1866.

“Mae’r digwyddiad hwn yn cadarnhau popeth a fu o’r blaen: fod Arthur Pell, cyn-ddisgybl yn Ysgol Rugby, wedi cyflwyno rheolau gêm rygbi ei ysgol i Brifysgol Caergrawnt, gwelwyd hyn gan Rowland Williams, a oedd yn hoff o chwaraeon, a gyflwynodd y gêm i Lambed pan ddaeth yn Is-brifathro’r Coleg yn 1850. Bu’n rhaid i fyfyrwyr Coleg Dewi Sant oedd yn chwarae rygbi aros tan i sefydliadau addysgol eraill yng Nghymru ymgymryd â’r gêm cyn iddynt allu chwarae gemau cystadleuol yn allanol. Digwyddodd hyn pan ddechreuodd Coleg Llanymddyfri chwarae gêm a oedd yn ddigon agos at Reolau Rygbi fel bod Coleg Llambed yn barod i’w herio i chwarae gêm yn eu herbyn yn 1866.

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gêm hon, a chwaraewyd yng Nghaio er hwylustod, oherwydd yn 1966 cydnabu Undeb Rygbi Cymru’n swyddogol mai’r gêm hon oedd y gyntaf erioed yng Nghymru i’w chwarae gan Glwb Rygbi sefydledig. Cafodd pob Clwb Rygbi arall yng Nghymru, yn ddieithriad, eu sefydlu ar ôl 1866, sy’n golygu mai Coleg Dewi Sant, Llambed oedd yr hynaf yng Nghymru.”

Ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr am 12pm, cynhelir y gêm rygbi flynyddol rhwng ‘Old Codgers’ Coleg Prifysgol Dewi Sant ac ‘Old Boys’ Llambed yng Nghlwb Rygbi Llambed, ac yna am 2.30pm, hefyd yng Nghlwb Rygbi Llambed, bydd Cyn-fyfyrwyr Coleg Dewi Sant Llambed yn wynebu Cyn-fyfyrwyr Coleg Llanymddyfri.

Meddai Esther Weller, Cadeirydd Cymdeithas Llambed:

“Mae Cymdeithas Llambed wedi cael blwyddyn brysur iawn yn dathlu daucanmlwyddiant y brifysgol ac rydym yn falch iawn bod ein digwyddiad dathlu olaf yn nodi rôl bwysig Llambed yn hanes rygbi yng Nghymru.”