‘Dedfryd Oes’ – Emyr Evans, nofelydd o Gwrtnewydd

Hanes mathemategydd a ffisegydd o Gwrtnewydd a Llanybydder sydd wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf.

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

O Gwrtnewydd i Gaerwys, via lot o lefydd yng Nghymru, Lloegr a’r tu hwnt, mae Emyr Evans wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf, Dedfryd Oes.

Dyma sgwrs hyfryd ag e, i ddysgu mwy amdano – ei fagwraeth yng Nghwrtnewydd a Llanybydder, yn ogystal â blas o’r nofel, sydd â chymeriad o Alltyblaca. Gwyliwch y fideo, a phrynwch gopi o’r llyfr o siop lyfrau Cymraeg lleol.