Wrth i ni droi ein golygon at ddathlu deucanmlwyddiant sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbed, alla i ddim peidio â meddwl gymaint yw ein diolch ni fel teulu – pum cenhedlaeth ohonom – i’r coleg. Y ffaith yw, oni bai am y coleg mae’n go debygol na fyddwn i nawr yn byw ar yr aelwyd sydd wastad wedi bod, ac yn parhau i fod yn annwyl i mi.
Fy hen-dadcu, y Capten David Williams Thomas, a’i wraig, Margaret Thomas oedd perchnogion cyntaf Bryn Hyfryd ar Heol y Bryn yn y flwyddyn 1900. Magwyd fy hen-famgu ar fferm Llwynowen, Cellan. Cyn priodi bu’n gwasanaethu gyda theulu’r ‘Hope’ ar y Stryd Fawr, Llanbed. Yn nes ymlaen bu ei chyflogwr, John Scurry Jones, yn ddarmerthwr (’manciple’) yn y coleg.
Er mai un o feibion Aberaeron oedd fy hen-dadcu, yn fab i gapten llong yr ‘Aeron Maid’, o Tilbury yn Essex yr hwyliai ei long ‘Thetis’, am ei fod yn cael ei gyflogi gan y Falkland Island Company ac yn croesi’r Iwerydd i San Carlos, Montevideo a Port Stanley. Ym mis Gorffennaf 1901, wrth ddychwelyd o Port Stanley yn ne’r Iwerydd aeth ei long ‘Thetis’ i drafferthion, a chollodd y Capten ei fywyd gan adael fy hen-famgu yn weddw ifanc â baban chwe wythnos oed. Roedd y Capten David Williams Thomas ar ei ffordd adre at ei wraig ac i weld ei newydd-anedig, y baban Thetis, am y tro cyntaf. Yn drychinebus, ni wireddwyd hynny.
Beth yw cysylltiad y stori hon â hanes y coleg, felly? O ganlyniad i’r drychineb, aeth pob ceiniog o’r iawndal a dalwyd am fywyd fy hen-dadcu i ad-dalu crefftwyr Aberaeron a oedd wedi danfon eu cynnyrch, fel cargo preifat, gyda’r Capten i’w gwerthu ar ei daith, gan adael fy hen-famgu â morgais i’w dalu a baban i’w magu. Roedd llawer un yn rhoi pwysau ar Mrs Capten Thomas, fel y’i hadwaenid, i anfon Thetis y baban i gartref plant amddifaid ond, yn naturiol, mynnodd frwydro i’w chadw. Er mwyn gwneud bywoliaeth i gynnal y ddwy ohonynt, aeth ati i ddarparu llety i fyfyrwyr Coleg Dewi Sant yn y tŷ, a elwid bellach yn ‘Falkland’, a gwneud hynny nes i’w hiechyd dorri yn y 1940au.
Rwy’n browd iawn o ddycnwch fy hen-famgu, ac rwy’n gwybod pa mor annwyl fu’r coleg i’m mamgu, Thetis, wedi iddi gael ei magu ymhlith yr ysgolheigion, a’i meithrin yn academaidd drwy eu dylanwad. Yn ogystal, bu teulu’r ‘Hope’ a fu gynt yn gyflogwyr i Margaret Thomas yn gymaint o gefn ymarferol iddi unwaith yn rhagor yn ei hymdrech i gadw tŷ a magu plentyn. Nid yn unig y bu’r coleg a’i gysylltiadau yn allweddol yn achubiad bore oes i’m mamgu, a’i mam, ond bu’n ganolog i’r hyn a ffurfiodd ei dealltwriaeth o’r byd a’i diwylliant.
Llongyfarchiadau gwresog a hir oes i’r coleg, a mawr yw fy niolch i a’r teulu oll am fod yn gymaint o ddylanwad arnom. x x x x x