Mae ysgol gynradd leol wedi ennill gwobr genedlaethol am greu ffilm i gyfleu pwysigrwydd dangos parch ar-lein.
Daeth Ysgol Dyffryn Cledlyn, Dre-fach, i’r brig yn y gystadleuaeth i ddisgyblion cynradd, a oedd yn cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel blynyddol.
Ar ben hynny, daeth ysgol arall yn ardal Clonc360 – sef Ysgol Bro Pedr, Llambed – yn ail yn y categori cynradd drwy Gymru.
Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ddisgyblion uwchradd a chynradd greu ffilm a oedd yn annog plant a phobol ifanc i rannu eu syniadau ynghylch dangos parch ar y rhyngrwyd mewn ffordd greadigol.
‘Pa neges well’
O dan arweiniad eu hathrawon Hywel Roderick a Deloni Davies, fe wnaeth disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Dyffryn Cledlyn gynhyrchu ffilm a oedd yn hyrwyddo pwysigrwydd rhannu negeseuon clên wrth eraill.
“Fe wnaethon ni ddysgu llawer o sgiliau newydd a llawer o negeseuon pwysig am barchu eraill ar y we,” meddai Mari, un o’r disgyblion a ddaeth i’r brig.
“Mae dangos parch ar lein yr un mor bwysig â pharchu pobl mewn bywyd bob dydd!”
Ychwanegodd pennaeth yr ysgol Carol Davies: “Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl staff am eu hymroddiad wrth sicrhau bod disgyblion yr Ysgol yn derbyn cyfleodd di-ri mewn cymaint o feysydd.
“Mae’r daith yn ein Hysgol – o’r gwaelod i’r brig yn sicrhau bod y disgyblion yn bobl ifanc cydwybodol ac am fentro.
“Pa neges well i bobl ifanc Cymru na neges gan ddisgyblion eraill!”
Dyma bennill a ysbrydolodd neges y ffilm fuddugol:
Neges neis sy’n hapus a llon,
Neu neges greulon i dorri’r galon?
Ydi chi’n berson cas a blin?
Gofynnwch cyn clicio – i chi eich hun?