Diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Uchafbwyntiau’r dydd o Dregaron

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
8F23901A-2CC7-4E0E-9675

Nia Wyn Davies yn croesawu eisteddfodwyr yn y Cwt Gwybodaeth.

Fyddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw? Ychwanegwch eich lluniau yma plis.

10:28

Mae’r Babell Lên 2022 yn sicr ar agor’.

10:28

Merched ysgolion uwchradd Ceredigion dan arweiniad y bardd Casi Wyn yn perfformio yn y Babell Lên.

10:20

Beth yw’r Babell Lên?

‘Pabell i bawb syn caru eu geirie’

yn ôl disgyblion Ysgol Henry Richard. 

10:18

Dim ots os daw y glaw a’r mwd

Dewch mewn, mae’r lle ma’n gwd.

Newydd glywed perfformiad gan ddisgyblion Henry Richard sy’n dweud y cyfan am yr eisteddfod yng Ngheredigion.  Perfformiad gwych dan arweiniad Enfys Hatcher.

10:04

Y Babell Lên yn llawn ar gyfer ei hagoriad swyddogol.