Fyddwch chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw? Ychwanegwch eich lluniau yma plis.
Criw Iwcaleli Aberystwyth yn perfformio ym Mhabell Cered.
Swyn Efa Tomos yn agor cystadleuaeth y Monolog 12-16 an y Pafiliwn! ‘Cathe’ oedd ei darn gan Heiddwen Tomos.
Mary a Nia, dwy o wirfoddolwyr Clonc yn stiwardio ym Mhabell y Papurau Bro.
Cyflwyniad Clera, Arad Goch yn crwydro’r maes.
Amser cinio – cefnogi cwmni lleol – Mair a Tony Hatcher, Abernant.
Os ydych am weld holl ddigwyddiadau’r wythnos. Mi allwch brynu rhaglen yr Wythnos o’r Hwb Gwybodaeth am £10. Ychydig iawn sydd ar ôl.
Os ydych yn dod i’r Maes – bydd angen MAP o’r Maes arnoch. Rhain ar gael yn y Brif Fynedfa neu yn yr Hwb Gwybodaeth.
Y drymiau yn barod ar gyfer cyflwyniad o hanes Undodiaid y Smotyn Du. Dewch draw i babell y Cymdeithasau 2 erbyn 12:30!
Dylan a’r panel yn barod i drafod a ydy papurau a gwefannau bro yn cystadlu neu’n cryfhau? Dewch draw i stondin Golwg i wrando ar y sgwrs ddiddorol yma!
Mae’r Babell Lên 2022 yn sicr ar agor’.