Ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod heddi’? Ychwanegwch luniau a fideos o’ch dydd plîs.
Eleri Sion yn westai i Wyn a Viv yng Nghlwb Rygbi Llanbed neithiwr. Llond lle o chwerthin.
Un o Gohebwyr Clonc360, Ifan Meredith yn gofyn cwestiwn ar raglen Pawb ei Farn.
Hefyd, bu Rebecca Rees, Talgarreg yn ymateb hefyd.
Ar ôl cloi Maes B nithwr (neu bore ’ma), cloi Gig y Pafiliwn wnaeth Gwilym heddiw.
Cyn Gwilym, bu Alffa, Adwaith a Mellt yn diddanu Pafiliwn oedd bron yn llawn.
Disgyblion Ysgol Bro Pedr ymhlith Côr Bl. 7, 8 a 9 Ysgolion Ceredigion yn canu yn Seremoni’r Fedal Ddrama y prynhawn ma.
Disgyblion Bro Pedr wedi bod yn cymryd rhan yng Nghôr Ysgolion Ceredigion.
Côr Bl. 7, 8 a 9 Ysgolion Ceredigion yn canu yn y Seremoni.
Dy Fam, neu Gruffydd Siôn Ywain o Lundain yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Roedd gan y gystadlaeuaeth ‘ystod o botential’ wedi annogaeth gan y beirniaid i’r 15 ag ymgeisiodd i gario ymlaen i ysgrifennu.
Gruffydd Siôn Ywain o Lundain yw enillydd y Fedal Ddrama.
Seremoni y Fedal Ddrama.
I rhai hynny sydd yn sefyll yn y Maes Carafanau’r Eisteddfod rydych siwr o fod wedi bod yn y Siop sydd yn cael ei redeg gan Llyr Thomas, Siop Premier, Llambed ac hefyd braf gweld cwmni lleol Llaeth Llanfair yno hefyd.