Ydych chi am fentro draw i’r Eisteddfod yn ystod y dydd? Ychwanegwch eich profiadau o’r Eisteddfod.
Os ydych yn dod i’r Eisteddfod- mi allwch wefru eich car trydan tra yn yr Eisteddfod!!
Siw Jones yn cyfarch y bardd buddugol yn Eisteddfod Llanbed prynhawn ma sef cyd aelod o ysgol farddol Caerfyrddin – Aled Evans o Langynnwr.
Disgyblion Ysgol y Dderi yn cyflwyno’r ddamws yn seremoni Cadeirio Eisteddfod RTJ Llanbed.
Ffugenw’r bardd buddugol oedd “Dic” sef Aled Evans o Langynnwr, a’i ddymuniad oedd bod yr enillion ariannol yn mynd tuag at y Banc Bwyd.
Seremoni olaf Eisteddfod RTJ Llanbed, seremoni’r Cadeirio dan ofal Mr Dorian Jones. Tybed a fydd teilyngdod?
Levi Spooner oedd enillydd yr Unawd unrhyw offeryn cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed gyda Gwennan Lloyd Owen yn ail.
Levi oedd hefyd enillydd y ‘Rose Bowl’ i’r cystadleuydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Gerdd.
Cyhoeddiad o gystadleuaeth y brif gystadleuaeth lefaru dan 21 oed. I ymddangos ar y llwyfan mae:
Zara Evans
Gwennan Mars
Elan Jones
Rhys Bebb-Jones yn cyflwyno’r Llywydd, Gwynfor Lewis.
Cyhoeddiad o gystadleuaeth Llefaru darn o’r Ysgrythur. I ymddangos ar y llwyfan mae:
Elan Jones
Daniel O’Callaghan
Elin Williams
Cyhoeddiad o gystadleuaeth Canu Emyn dan 21. I ymddangos ar y llwyfan mae:
Osian Rhys Jenkins
Trystan Bryn Evans
Sara Elan Jones.