Ydych chi am fentro draw i’r Eisteddfod yn ystod y dydd? Ychwanegwch eich profiadau o’r Eisteddfod.
Unawd Merched 12-16 oed
1. Ela Mablen
2. Swyn
3. Alwena
Unawd Bechgyn 12-16 oed
1. Trystan Bryn Evans
Canlyniad Unawd Piano 12-19 oed
1. Alwena Owen
2. Lea Mererid
3. Alma Spooner
Cystadleuaeth Deuawd Emyn dechrau nawr.
Os ydych yn dod i’r Eisteddfod- mi allwch wefru eich car trydan tra yn yr Eisteddfod!!
Siw Jones yn cyfarch y bardd buddugol yn Eisteddfod Llanbed prynhawn ma sef cyd aelod o ysgol farddol Caerfyrddin – Aled Evans o Langynnwr.
Disgyblion Ysgol y Dderi yn cyflwyno’r ddamws yn seremoni Cadeirio Eisteddfod RTJ Llanbed.
Ffugenw’r bardd buddugol oedd “Dic” sef Aled Evans o Langynnwr, a’i ddymuniad oedd bod yr enillion ariannol yn mynd tuag at y Banc Bwyd.
Seremoni olaf Eisteddfod RTJ Llanbed, seremoni’r Cadeirio dan ofal Mr Dorian Jones. Tybed a fydd teilyngdod?
Levi Spooner oedd enillydd yr Unawd unrhyw offeryn cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed gyda Gwennan Lloyd Owen yn ail.
Levi oedd hefyd enillydd y ‘Rose Bowl’ i’r cystadleuydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Gerdd.